News and press releases
• Gwnaeth y Post Brenhinol yn well na’i dargedau ansawdd ar gyfer post Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth wedi’i stampio yn y cyfnod o Ionawr tan Fawrth, a chafodd y mwyafrif helaeth o’r holl bost ei ddosbarthu yn unol â’r targed neu’n well na hynny.
• Dosbarthwyd 93.4% o’r post Dosbarth Cyntaf wedi’i stampio a’i ffrancio â mesurydd y diwrnod gwaith ar ôl y postio, gan guro’r targed o 93.0%, yn ôl ymchwil annibynnol.
• Cafwyd perfformiad o 98.9% - yn well na’r targed o 98.5% o bost yn cael ei ddosbarthu o fewn tri diwrnod gwaith - ar gyfer post Ail Ddosbarth wedi’i stampio a’i ffrancio.
• Roedd dosbarthiad post Dosbarth Cyntaf ym mis Ebrill yn dal i fod yn well na’r targed o 93.0%, yn ôl data rhagarweiniol.
Gwnaeth y Post Brenhinol yn well na’i dargedau ansawdd ar gyfer post Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth wedi’i stampio yn y cyfnod o Ionawr tan Fawrth, a chafodd y mwyafrif helaeth o’r holl bost ei ddosbarthu yn unol â’r targed neu’n well na hynny. Y ffigurau diweddaraf hyn yw’r perfformiad gorau ar gyfer gwasanaeth cwsmeriaid ledled y DG ar gyfer unrhyw chwarter ers haf 2010.
Rhwng Ionawr a Mawrth 2012, llwyddodd y cwmni i ddosbarthu 93.4% o’r post Dosbarth Cyntaf wedi’ stampio a’i ffrancio gan fesurydd y diwrnod gwaith ar ôl y postio, gan guro’r targed o 93.0%, yn ôl ymchwil annibynnol. Cafwyd perfformiad o 98.9% - yn well na’r targed o 98.5% o bost yn cael ei ddosbarthu o fewn tri diwrnod gwaith - ar gyfer post Ail Ddosbarth wedi’i stampio a’i ffrancio â mesurydd yn ystod y cyfnod.
Llwyddwyd i wneud hyn wrth i'r Post Brenhinol barhau â’i raglen foderneiddio enfawr, sef un o’r trawsnewidiadau mwyaf yn niwydiant y DG. Mae technoleg newydd a gwell cyfarpar yn cael eu cyflwyno ledled y DG ac mae arferion gwaith postmyn a phostmonesau yn newid. Mae’n broses boenus ac anodd.
Hefyd, dangosodd yr adroddiad annibynnol ar gyfer tri mis calendr cyntaf 2012 fod postmyn a phostmonesau’r Post Brenhinol wedi perfformio’n dda wrth ddosbarthu Parseli Safonol, eitemau rhyngwladol Ewropeaidd a’r rhan fwyaf o wasanaethau post busnes.
Yn ystod y flwyddyn ariannol 2011-12 , methodd y Post Brenhinol o fewn trwch blewyn â chyrraedd ei darged blynyddol o 93.0% ar gyfer post Dosbarth Cyntaf wedi’i stampio a’i ffrancio gan fesurydd; roedd y perfformiad yn 92.7%. Cafwyd perfformiad o 98.7% - yn well na’r targed - ar gyfer post Ail Ddosbarth wedi’i stampio a’i ffrancio, sef tua hanner yr holl bost wedi’i stampio a’i ffrancio.
Cyhoeddir yr adroddiad annibynnol diweddaraf ar berfformiad heddiw ar wefan y Post Brenhinol yn http://www.royalmailgroup.com/how-were-performing/latest-news
Mae’r ffigurau hyn gan TNS yn seiliedig ar dros 230,000 o lythyrau, parseli a phacedi sampl a anfonwyd i dros 5,300 o gyfeiriadau yn ystod y cyfnod o Ionawr i Fawrth.
Dywedodd Mark Higson, Rheolwr Gyfarwyddwr Moderneiddio a Gweithrediadau: “Mae ein postmyn a phostmonesau’n ceisio cyrraedd un o’r targedau uchaf ac anoddaf o’i fath yn Ewrop ar gyfer dosbarthu diwrnod canlynol yn ystod cyfnod o drawsnewid enfawr. Rwy’n talu teyrnged i ymroddiad ein pobl i’r cwsmeriaid wrth iddyn nhw weithio’n galed i drawsnewid y Post Brenhinol.Mae’r newid mwyaf yn digwydd ar hyn o bryd ac mae’n broses boenus ac anodd.
“Rydym wedi cyrraedd y targed ar lefel y DG yn y cyfnod diweddaraf mewn 107 o’r 118 o Ardaloedd Cod Post. Yr her nawr yw gwneud yn siŵr fod yna berfformiad uchel ym mhob rhan o’r DG werth i ni barhau i foderneiddio’r Post Brenhinol.”
Cafwyd y perfformiad gorau ledled y DG am bost Dosbarth Cyntaf wedi’i stampio a’r ffrancio gan fesurydd yn ystod blwyddyn ariannol 2011-12 yn ardal cod post Caerliwelydd (CA) lle cafwyd perfformiad o 95.2%, ac roedd Halifax (HX) yn ail agos gyda 95.1%.
Drwyddi draw, llwyddodd pymtheg o Ardaloedd Cod Post i gael perfformiad Dosbarth Cyntaf o 94.0% neu’n well yn ystod blwyddyn ariannol 2011-12:
CA, Caerliwelydd, 95.2%
HX, Halifax, 95.1%
BB, Blackburn a Burnley, 94.9%
IV, Inverness, 94.8%
AB, Aberdeen, 94.7%
YO, Caerefrog, 94.6%
HU, Hull, 94.6%
DE, Derby, 94.6%
BT, Gogledd Iwerddon, 94.6%
EH, Caeredin, 94.4%
UB, Uxbridge, 94.2%
OL, Oldham, 94.2%
PH, Perth, 94.1%
HA, Harrow, 94.1%
NE, Newcastle upon Tyne, 94.0%.
Diwedd
Cyhoeddwyd gan y Post Brenhinol: 020 7250 2468 (24 awr)
100 Victoria Embankment
LLUNDAIN
EC4Y 0HQ
www.royalmail.com
Nodiadau i Olygyddion
1. Mae’r adroddiad chwarterol diweddaraf ar gyfer blwyddyn ariannol 2011-12 yn ymwneud â’r cyfnod o 3 Ionawr 2012 tan 25 Mawrth 2012 ar gyfer pob gwasanaeth.
2. Caiff Ansawdd Gwasanaeth y Post Brenhinol ei fesur yn annibynnol gan TNS, sef cwmni ag enw da ers cyfnod maith yn y maes hwn. Mae’r fethodoleg a ddefnyddir a’r canlyniadau a geir yn cael eu gwirio’n annibynnol o’r Post Brenhinol a TNS. Nid yw’r Post Brenhinol yn gwybod am unrhyw fesur arall o ansawdd ei wasanaeth sy’n rhoi canlyniadau â’r un cwmpas daearyddol ac sydd yr un mor ddibynadwy a chywir â’r ffigurau a geir gan TNS. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2011-12, mesurodd TNS yr ansawdd gwasanaeth trwy anfon bron filiwn o lythyrau sampl, parseli a phacedi i dros 5,600 o gyfeiriadau.
3. Mae yna 121 o Ardaloedd Cod Post ledled y DG. Ar gyfer pob un ond tri, pennir safon ofynnol o 91.5% ar gyfer post Dosbarth Cyntaf wedi’i stampio a’i ffrancio gan fesurydd. Y tri eithriad yw Ynysoedd Shetland, Ynysoedd Erch ac Ynysoedd Hebrides am eu bod mor anghysbell.
Swyddfa Gofrestredig Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group plc 2013
