Datganiad Newyddion

Diamond jubilee stamp set

Y Post Brenhinol yn nodi’r JiwbilÎ ddeimwnt gydag wyth stamp portread unigol newydd

Mae’r set o wyth portread brenhinol unigol Ei Mawrhydi y Frenhines yn nodi pen-blwydd ei hesgyniad i’r orsedd ym 1952

Bydd Stampiau Arbennig y JiwbilîDdeimwnt yn cael eu lansio ar 31 Mai 2012 a byddant ar gael ym mhob Cangen o Swyddfa’r Post. Gellir hefyd prynu’r stampiau yn www.royalmail.com am flwyddyn

Mae’r stampiau newydd yn cofnodi chwe degawd o hanes Prydain gan ddefnyddio ffotograffau o’r archif o achlysuron Brenhinol arwyddocaol, yn cynnwys darllediad Nadolig cyntaf y Frenhines ym 1957, Cyflwyno’r Faner ym 1967 a dathliadau ei Jiwbilî Aur yn 2002

Dyma drydydd cyhoeddiad stampiau 2012, sydd yn nodi Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines, a’r olaf.  Y cyntaf oedd cyhoeddiad Teulu Windsor a Saxe-Coburg-Gotha a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror. Yr ail oedd Taflen Barhaol y Jiwbilî Ddeimwnt; yr un diwrnod ag esgyniad y Frenhines i’r orsedd ym 1952

Nodwyd Jiwbilî Arian, Ruddem ac Aur y Frenhines hefyd trwy gyhoeddi stampiau arbennig – darlun o’r Frenhines a’r Seiffr Brenhinol ERym 1977, cyfuniad o bortreadau cyhoeddus a phreifat ym 1992, a delweddau portread du a gwyn ar gyfer y Jiwbilî Aur yn 2002

Mae’r Post Brenhinol yn dathlu uchafbwynt dathliadau Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines gydag wyth stamp newydd yn cynnwys detholiad o rai o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy ei theyrnasiad hanesyddol dros 60 o flynyddoedd.

Diwrnod ei hesgyniad i’r orsedd oedd 6 Chwefror, er bod dathliadau’n cael eu cynnal trwy gydol 2012, ac yn cynnwys penwythnos gŵyl banc estynedig. Bydd y Penwythnos Canolog, ar 2-5 Mehefin, yn cynnwys gweithgareddau i ddathlu ar draws y DG ac ar draws y Gymanwlad.

Cyhoeddir Stampiau Arbennig y Jiwbilî Ddeimwnt ar 31 Mai. Maent yn cynnwys delweddau o’r Frenhines yn cyflawni ei dyletswyddau swyddogol gartref yn y DG ac ar lwyfan y byd.

Mae’r wyth stamp yn rhoi darlun diddorol o’r dyletswyddau hynod amrywiol y mae’r Frenhines wedi eu cyflawni; o gyflwyno’r darllediad Nadolig cyntaf ar y teledu ym 1957, i archwilio 2il Fataliwn y Cymry Brenhinol, fel Pencadlywydd Lluoedd Arfog y DG, hanner canrif yn ddiweddarach yn 2007. Teyrnasiad y Frenhines dros 60 o flynyddoedd yw’r cyfnod hiraf ond un i frenin neu frenhines deyrnasu ym Mhrydain. Teyrnasodd y Frenhines Fictoria am 63 o flynyddoedd a 7 mis.

Dywedodd Moya Greene, Prif Weithredwr y Post Brenhinol:“Mae’r Jiwbilî Ddeimwnt, yr ail yn hanes y teulu Brenhinol, yn achlysur pwysig iawn.  Bydd sylw’r byd i gyd ar yr achlysur arbennig hwn."

“Mae’n fraint bod gan y Post Brenhinol berthynas mor hirsefydlog â’r Frenhines. Rydym yn falch o nodi’r achlysur trwy ddathlu rolau swyddogol y Frenhines gyda delweddau penodedig a chofiadwy, llawer ohonynt heb gael eu gweld rhyw lawer o’r blaen.  Mae’r stampiau yn nodi teyrnasiad y Frenhines ar draws chwe degawd ac yn amlygu ei hymrwymiad diwyro i ddyletswydd genedlaethol.”

Dyma drydydd cyhoeddiad stampiau sydd yn nodi Jiwbilî Ddeimwnt y Frenhines yn 2012, a’r olaf. Y cyntaf oedd cyhoeddiad Teulu Windsor a Saxe-Coburg-Gotha ar gael o 2 Chwefror. Yr ail oedd Taflen Barhaol y Jiwbilî Ddeimwnt, a gyhoeddwyd ar 6 Chwefror; yr un diwrnod ag esgyniad y Frenhines i’r orsedd ym 1952. Roedd y daflen hefyd yn cynnwys stamp Dosbarth 1af glas, parhaol newydd sbon y Jiwbilî Ddeimwnt, stamp bob dydd y DG, sy’n disodli’r stamp aur parhaol ar gyfer 2012. Gellir ei brynu mewn Canghennau o Swyddfa’r Post a manwerthwyr stampiau eraill.