Mae’r Post Brenhinol yn rhan hanfodol o isadeiledd economaidd a chymdeithasol y DG
Mae’r Post Brenhinol yn rhan hanfodol o isadeiledd economaidd a chymdeithasol y DG
Rydym yn gwneud i fasnach ddigwydd trwy gysylltu cwmnïau, cwsmeriaid a chymunedau chwe diwrnod yr wythnos. Rydym yn dosbarthu 59 miliwn o eitemau bob diwrnod gwaith. Rydym yn chwarae rhan bwysig yn y DG.
Mae busnesau yn newid wrth i economïau newid. Mae’r Post Brenhinol yn gwneud yr un peth.Er bod meintiau llythyrau yn dirywio, mae nifer y pacedi yr ydym yn ymdrin â nhw yn cynyddu.
Rydym yn moderneiddio ein busnes i’w wneud yn fwy effeithiol ac ymatebol i gwsmeriaid. Mae hyn yn golygu gwella pob agwedd ar ein gweithrediadau – casgliadau, prosesu, didoli a dosbarthu. Mae ein cynllun moderneiddio yn un o’r rhaglenni newid mwyaf yn y DG.
Mae ein gwasanaethau dosbarthu yn galluogi unigolion i gyfathrebu â’i gilydd ac i fusnesau fasnachu yn effeithiol.
Rydym wedi buddsoddi er mwyn gwella ein portffolio o wasanaethau wedi eu holrhain ar gyfer pacedi ac i fod o fudd i fanwerthwyr ar-lein a chatalog a’r rheiny sy’n siopa gyda nhw. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn mentrau i’w wneud yn haws i bobl dderbyn eitemau na ellir eu dosbarthu os nad ydynt gartref.
Ar gyfer busnesau bach a mawr, rydym yn darparu’r arbenigedd a’r atebion i’w helpu i gyrraedd cwsmeriaid presennol trwy restrau postio a chatalogau.
Mae ein strategaeth fusnes yn canolbwyntio ar wella ein heffeithlonrwydd a bodloni anghenion ein cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu darparu’r safonau uchaf y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl. Mae hefyd yn golygu datblygu gwasanaethau newydd er mwyn bodloni anghenion newidiol cwsmeriaid yn well.
Er mwyn ein helpu ni i gyflawni ein nodau, mae tua hanner ein dangosyddion perfformiad allweddol yn cynnwys mesurau sy’n ymwneud â chwsmeriaid. Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno’r hyn yr ydym wedi ei addo, gwella rhyngweithio â chwsmeriaid a symleiddio ein cynnyrch.
Swyddfa Gofrestredig Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group plc 2013