News and press releases

  • Royal Mail
    7 July 2012
    GEMAU PARALYMPAIDD PRYDAIN YN CAEL LLE ANRHYDEDDUS AR STAMPIAU’R POST BRENHINOL
    • Y Post Brenhinol fydd y weinyddiaeth bost gyntaf i ddathlu medalau aur ei thîm Paralympaidd cenedlaethol trwy eu dangos ar set o chwech o stampiau arbennig.  Bydd pob stamp yn dangos grŵpgwahanol o enillwyr medalau aur Paralympaidd
    • Y DG yw man geni’r Gemau Paralympaidd. Sefydlwyd y mudiad yn Ysbyty Stoke Mandeville, Aylesbury, yn 1948 gan Dr Ludwig Guttmann, sy’n cael ei adnabod fel “tad chwaraeon i bobl ag anableddau”. Llundain 2012 fydd yr eildro i’r DG gynnal y Gemau Paralympaidd
    • Bydd y set ar werth am £3.60a bydd yn cynnwys chwe stamp Dosbarth Cyntaf, pob un yn dangos grŵpo enillwyr medalau aur Paralympaidd o Brydain yn y Gemau Paralympaidd eleni. Bydd y stampiau ar werth o 27 Medi mewn dros 5,200 o swyddfeydd post.
    • Mae’r Post Brenhinol yn rhoi £200,000 yn rhodd i Gymdeithas Baralympaidd Prydain, i’w rannu’n gyfartal rhwng holl enillwyr medalau aur Paralympaidd Prydain.
    • Hefyd, bydd y Post Brenhinol yn cyflwyno set o stampiau ar 29 Awst i ddathlu dechrau’r Gemau Paralympaidd, y tro cyntaf eto i hyn gael ei wneud gan unrhyw weinyddiaeth bost
    • Mae’r Post Brenhinol wedi cynnwys yr holl ddisgyblaethau a welir yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr haf hwn mewn tri set o stampiau wrth arwain at Gemau Llundain 2012.

O ddechreuadau cyffredin 64 blynedd yn ôl yn Ysbyty Stoke Mandeville i le amlwg yn y calendr chwaraeon, bydd y Gemau Paralympaidd yn dod adref yr haf hwn.  Bydd y Post Brenhinol yn dathlu’r achlysur yn fuddugoliaethus.

I ddynodi dychweliad y Gemau Paralympaidd, bydd y Post Brenhinol yn cyflwyno set o chwe stamp Dosbarth Cyntaf ar ddalen fach wedi’i dylunio’n arbennig, i ddathlu’r medalau aur a enillir gan aelodau tîm Paralympaidd Prydain yng Ngemau Llundain 2012.Bydd pob enillydd medal aur yn cael cyfle i ymddangos ar y stampiau hyn a bydd pob stamp yn cynnwys grŵp gwahanol o enillwyr medalau aur Paralympaidd. 

Hwn fydd y tro cyntaf i set o stampiau gael eu cyhoeddi i ddathlu gorchestion enillwyr medalau aur Paralympaidd o’r wlad sy’n cynnal y Gemau. Hefyd, ar 29 Awst, y Post Brenhinol fydd y weinyddiaeth bost gyntaf y mae eu gwlad yn cynnal y gemau i gyhoeddi set o stampiau i ddathlu dechrau’r Gemau Paralympaidd.

Mae’r Gemau Paralympaidd modern yn dyddio nôl i 1948 pan ddechreuodd y mudiad Paralympaidd. Yr haf hwnnw, penderfynodd Dr Ludwig Guttmann, cyfarwyddwr ysbrydoledig y Ganolfan Anafiadau Asgwrn Cefn, drefnu cystadleuaeth saethu â bwa i gyd-redeg â’r Gemau Olympaidd, ar gyfer pobl a oedd yn gaeth i gadeiriau olwyn ar ôl cael eu hanafu neu eu clwyfo yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yr haf hwn, mae disgwyl i oddeutu 4,200 o athletwyr o 160 o wledydd fynychu’r Gemau Paralympaidd, gyda 471 o ddigwyddiadau medalau mewn 21 o ddisgyblaethau.  Yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing yn 2008, enillodd Tîm Paralympaidd Prydain 42 o fedalau aur. Enillwyd medal aur Baralympaidd gyntaf y DG gan Margaret Maughan am saethu â bwa yn 1960.

Mae gan y Post Brenhinol berthynas hir â Chymdeithas Baralympaidd Prydain. Yn 1992, y Post Brenhinol oedd noddwr swyddogol timau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain, yn y gemau yn Barcelona. Eleni, i gefnogi tîm Paralympaidd Prydain, bydd y Post Brenhinol yn rhoi £200,000 i Gymdeithas Baralympaidd Prydain, i’w rannu’n gyfartal rhwng holl enillwyr medalau aur Paralympaidd Prydain. 

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Tanni Grey-Thompson, enillydd 11 o fedalau aur Paralympaidd: “Rwy’n falch dros ben y bydd y Post Brenhinol yn cynhyrchu stampiau i ddathlu Medalau Aur Prydain yn y Gemau Paralympaidd yr haf hwn. Mae stampiau’r Post Brenhinol wedi dod yn rhan hollbwysig o’r traddodiad Paralympaidd yn y DG. Bydd dychweliad y Gemau Paralympaidd i’r DG yn gwneud y digwyddiad yn fwy arbennig byth ac edrychaf ymlaen at ddathlu pob buddugoliaeth gyda’r tîm.”

Dywedodd Moya Greene, Prif Weithredwraig y Post Brenhinol:“Mae’n gyffrous i ni gyhoeddi ein rhaglen stampiau Medalau Aur Paralympaidd ac rydym yn ymfalchïo taw ni yw’r weinyddiaeth bost gyntaf i gydnabod ei chystadleuwyr Paralympaidd fel hyn.

“Bydd y stampiau yn ffordd wych i bobl ar draws y DG ddathlu buddugoliaethau medalau aur tîm Paralympaidd Prydain a byddan nhw’n helpu i ddynodi eu gorchest nodedig.  Mae’r Post Brenhinol yn falch o fod yn rhan o’r digwyddiad unigryw hwn ac yn ymfalchïo hefyd ei fod yn rhoi cymorth ariannol i athletwyr dawnus y DG.

  

Heulyn Gwyn Davies

Pennaeth Cysylltiadau Allanol

02920 392500

heulyn.davies@royalmail.com

Dilynwch ni @RoyalMailNews

#goldmedalstamps

www.royalmail.com/goldmedalstamps

 

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Bydd y stampiau o Enillwyr Medalau Aur Paralympaidd Prydain ar gael mewn dros5,200 o ganghennau Swyddfa'r Post, ar-lein trwy wefan Post Brenhinol ac o Royal Mail Tallents House, (ffôn  08457 641 641), 21 South Gyle Crescent, Caeredin, EH12 9PB
  • Bydd y set o chwe stamp Dosbarth Cyntaf ar ddalen fach wedi’i dylunio’n arbennig, ar werth am £3.60.
  • Hefyd, bydd y Post Brenhinol yn cyflwyno set o stampiau ar 29 Awst i ddathlu dechrau’r Gemau Paralympaidd, y tro cyntaf eto i hyn gael ei wneud gan unrhyw weinyddiaeth bost
  • Y DG yw man geni’r Gemau Paralympaidd. Fe’i sefydlwyd yn 1948 gan Dr Ludwig Guttmann, sy’n cael ei adnabod fel “tad chwaraeon i bobl ag anableddau
  • Yn 1984, cytunodd Stoke Mandeville yn Aylesbury, ar fyr rybudd, i gyd-gynnal y Gemau Paralympaidd  ar ôl i’r digwyddiadau cadair olwyn a oedd i fod i gael eu cynnal yn Illinois fynd i drafferthion

  • Cafwyd y stampiau Gemau Olympaidd cyntaf gan y Post Brenhinol yn 1948. Bryd hynny, roedd yna bedwar stamp yn dangos y pum cylch Olympaidd.  Ni chafwyd unrhyw stampiau yn 1908 oherwydd dim ond llun o’r brenin a geid ar stampiau’r Post Brenhinol bryd hynny
  • I gael gwybodaeth ychwanegol am y dewis o’r stampiau Olympaidd a Pharalympaidd gan y Post Brenhinol, ewch i www.royalmail.com/goldmedalstamps

Y GEMAU PARALYMPAIDD HYD YMA

Dechreuodd y Mudiad Paralympaidd yn Stoke Mandeville yn1948

Gemau Swyddogol:

1960– Rome, Italy

1964- Tokyo, Japan

1968- Tel Aviv. Israel

1972– Heidelberg, Germany

1976– Toronto, Canada

1980– Arnhem, Holland

1984- Stoke Mandeville & New York

1988– Seoul, South Korea

1992– Barcelona, Spain

1996– Atlanta, USA

2000– Sydney, Australia

2004– Athens, Greece,

2008– Beijing, China