News and press releases
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r RNIB, fel prif elusen y DG sy’n cefnogi’r rheiny sydd wedi colli eu golwg, er mwyn sicrhau bod y cynllun Eitemau ar gyfer y Deillion yn bodloni anghenion defnyddwyr y gwasanaeth post sydd yn ddall ac yn rhannol ddall.
Mae’r Post Brenhinol yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn darparu’r cynllun eitemau ar gyfer y deillion, a gostiodd gyfanswm o £6.2 miliwn yn 2011/12. Mae’r Post Brenhinol wedi ymrwymo’n gyfan gwbl i gyflenwi’r cynllun hwn a darparu’r gwasanaeth gorau yn Ewrop.
Diogelir y gwasanaeth, sy’n darparu post am ddim ar gyfer pobl ddall neu rannol ddal, yn ôl y gyfraith. Mae’n cael ei gynnwys fel isafswm gofyniad y Gwasanaeth Cyffredinol yn Adran 31 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011. Gallai newid i’r cynllun Eitemau ar gyfer y Deillion ond ddigwydd gyda chyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol a thrwy bleidlais yn nau Dŷ’r Senedd."
Candice Macdonald
Pennaeth Cysylltiadau’r Cyfryngau Corfforaethol
Grŵp y Post Brenhinol
T: 020 7449 8261
S: 07436 267 324
E: candice.macdonald@royalmail.com
Swyddfa Gofrestredig Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group plc 2013
