News and press releases
- Mae’r Post Brenhinol yn siomedig â phenderfyniad Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i gynnal pleidlais ymgynghorol ymysg ei aelodau ar ystod o faterion
- Pwysleisiodd y Post Brenhinol mai pleidlais ymgynghorol yw hon gan y CWU i ddeall barn ei aelodau ar ystod o faterion
- Nid yw pleidlais ymgynghorol yn bleidlais dros weithredu diwydiannol
-
Rydym wedi ymroi i geisio cytundeb â’r CWU ar y ffordd ymlaen yn y Post Brenhinol sy’n ymbaratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol ac sy’n deg i’n gweithwyr.
Mae’r Post Brenhinol yn siomedig â phenderfyniad Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu i gynnal pleidlais ymgynghorol ymysg ei aelodau ar ystod o faterion. Yn ei gynhadledd flynyddol heddiw, fe drefnodd y CWU i gynnal pleidlais ymgynghorol ymysg ei aelodau ar ystod o faterion. Bydd hyn yn digwydd ym mis Mai. Pwysleisiodd y Post Brenhinol mai pleidlais ymgynghorol yw hyn gan y CWU i ddeall barn ei aelodau ar ystod o faterion. Nid yw’n bleidlais dros weithredu diwydiannol.
Nodir safbwynt y Post Brenhinol ynghylch y materion hyn isod.
Trafodaethau Post Brenhinol / CWU –
Rydym wedi cynnal trafodaethau parhaus a manwl â’r CWU ar ystod o faterion, yn cynnwys tâl, a fydd yn parhau ar ôl y gynhadledd. Rydym wedi ymroi i geisio cytundeb â’r CWU ar y ffordd ymlaen yn y Post Brenhinol sy’n ymbaratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol ac sy’n deg i’n gweithwyr. Yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r CWU, rydym wedi:
- Llofnodi cytundeb ‘Sicrwydd swyddi, Adnoddau a Rheoli Newid’ â’r CWU sy’n atgyfnerthu ein hymroddiad i foderneiddio’r Post Brenhinol
-
Cytuno y byddwn yn parhau i gael gweithlu amser llawn yn bennaf
-
Cytuno i ehangu telerau gwell ar gyfer diswyddiad gwirfoddol
Post Mynediad - Mae’r Post Brenhinol yn gwbl ymroddedig i ddosbarthu post sy’n cael ei roi yn ein gofal ni trwy gytundebau Mynediad at y Cwsmer. Mae post ein holl gwsmeriaid yn bwysig i ni. Mae angen iddo gael ei ddosbarthu.
Mae Post Mynediad yn cyfrif am bron un ym mhob dau o’r llythyrau yr ydym yn eu trafod. Yn y gorffennol roedd yn gwneud colled. Yn 2011/12 fe wnaethom elw o £80 miliwn ar Bost Mynediad yn dilyn moderneiddio a chyn costau eithriadol eraill. Gwnaed hyn yn bosib trwy godi prisiau a thrwy fframwaith rheoleiddio newydd a sicrhawyd gennym.
Dosbarthu uniongyrchol - Ym mis Mawrth cyhoeddodd Ofcom ganllaw yn nodi ei ymagwedd reoleiddiol tuag at warchod y Gwasanaeth Cyffredinol yn wyneb cystadleuaeth gynyddol o ran dosbarthu uniongyrchol. Mae gan Ofcom y pŵer i ymyrryd os yw’n ystyried bod cystadleuaeth dosbarthu uniongyrchol yn bygwth darpariaeth gynaliadwy'r USO.
Ym mis Mawrth, croesawodd y Post Brenhinol gydnabyddiaeth Ofcom o’i ddyletswydd, pwerau a pharodrwydd i weithredu i warchod y Gwasanaeth Cyffredinol os bydd angen.
Mynediad i gyfalaf allanol – O fewn y fframwaith a ddarperir gan Ddeddf y Gwasanaethau Post gallai’r Post Brenhinol gael mynediad i gyfalaf allanol. Mae unrhyw werthiant yn fater i’r Llywodraeth. Mae’n fraint gan y Post Brenhinol ddarparu’r Gwasanaeth Cyffredinol i dros 29 miliwn o gyfeiriadau ar draws y DG. Mae’r Gwasanaeth Cyffredinol wedi ei ddiogelu yn ôl y gyfraith trwy Ddeddf y Gwasanaethau Post 2011. Dim ond Dau Dŷ’r Senedd all newid y gwasanaeth fforddiadwy chwe diwrnod yr wythnos, un pris i bobman. Mae gan Ofcom, y rheoleiddiwr annibynnol, ddyletswydd sylfaenol i warchod y Gwasanaeth Cyffredinol. Mae wedi diystyru unrhyw newidiadau i gwmpas y Gwasanaeth Cyffredinol.
Mae hyn yn golygu:
- Mae’r gwasanaeth fforddiadwy, chwe diwrnod yr wythnos, un pris i bobman wedi ei ddiogelu gan y gyfraith
- Ni fydd lleihad o ran dosbarthu dyddiol i ardaloedd gwledig os digwydd i’r Post Brenhinol gael gafael ar gyfalaf allanol
- Mae’r gwasanaethau a ddefnyddir gan fusnesau bach wedi eu gwarchod ac rydym yn darparu gwerth da am arian. Fis diwethaf dywedodd Ofcom fod gwasanaethau’r Post Brenhinol yn fforddiadwy i gwsmeriaid a busnesau bach a chanolig
- Mae pris stampiau’r DG ymysg y rhai sy’n rhoi’r gwerth gorau yn yr UE. Mewn pump o’r chwe cham pwysau ar gyfer post Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth, mae cost stampiau’r DG yn hanner isaf y prisiau o’u cymharu â gwledydd eraill yr UE. Mewn rhai achosion, y DG yw’r rhataf.
Ymholiadau gan y Cyfryngau
Mish Tullar
Cyfarwyddwr Cyswllt â’r Cyfryngau
Mish.Tullar@royalmail.com
07423 524154
Swyddfa Gofrestredig Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group plc 2013
