News and press releases

  • Royal Mail
    Football heroes 220 jpeg
    9 May 2013
    STAMPIAU ARBENNIG Y POST BRENHINOL I DDATHLU 150 O FLYNYDDOEDD O BÊL-DROED Y GYMDEITHAS YN MYND AR WERTH YFORY
  •  Mae’r Post Brenhinol yn nodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu rheolau’r Gymdeithas Bêl-droed, gyda stamp yn dathlu 11 o arwyr pennaf pêl-droed o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
  • O heddiw ymlaen, bydd y stampiau ar gael ar-lein yn www.royalmail.com/footballheroes, dros y ffôn ar 08457 641 641, ac mewn 9000 o Swyddfeydd Post ar draws y DG 
  • Mae’r cyhoeddiad hefyd yn dathlu 150 o flynyddoedd o’r Gymdeithas Bêl-droed a 140 o flynyddoedd o Gymdeithas Bêl-droed yr Alban
  • Mae’r stampiau yn cynnwys yr 11 arwr yng ngwisg bêl-droed eu gwlad – John Barnes (Lloegr); Gordon Banks (Lloegr); George Best (Gogledd Iwerddon); John Charles (Cymru); Bobby Charlton (Lloegr); Jimmy Greaves (Lloegr); Kevin Keegan (Lloegr); Denis Law (yr Alban); Dave Mackay (yr Alban); Bobby Moore (Lloegr); Bryan Robson (Lloegr)
  • Mae’r Post Brenhinol yn creu marc post arbennig ym man geni’r chwaraewyr ar gyfer post stampiau, gyda marc post arbennig John Barnes yn ymddangos yn Watford
  • Cymerodd saith chwaraewr oedd wedi eu cynnwys ar y stampiau ran mewn digwyddiad y cyfryngau yn Wembley i lansio’r stampiau yn swyddogol
     

Roedd saith o’r enwau mwyaf yn hanes pêl-droed Prydain yn bresennol yng nghartref eiconig pêl-droed yn Stadiwm Wembley ddoe, i lansio Stampiau Arbennig Arwyr Pêl-droed y Post Brenhinol fydd ar werth o heddiw, 9 Mai 2013, ymlaen. Mae’r stampiau’n dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu rheolau’r Gymdeithas Bêl-droed, ac mae hefyd yn cyd-fynd â phen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban yn 140 oed.

Bydd yr 11 stamp Dosbarth 1af yn cynnwys pêl-droedwyr unigol o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a oedd i gyd yn chwaraewyr hynod ddawnus a wnaeth ddisgleirio yn eu cyfnod a thu hwnt. Cafodd y stampiau eu darlunio gan yr artist Andrew Kinsman, a dynnodd luniau o’r holl chwaraewyr, yna creu gwaith celf, felly pan gaiff yr 11 stamp eu rhoi at ei gilydd, maent yn creu llun traddodiadol o dîm. 

Mae’r Post Brenhinol hefyd yn creu marc post unigryw ym man geni pob chwaraewr. Bydd John Barnes, a aned yn Jamaica, yn cael marc post arbennig yn Watford. Bydd gan yr holl bost stampiau a anfonir, er enghraifft, i Aberdeen, yn cynnwys marc post arbennig yn datgan ‘Stampiau Arwyr Pêl-droed yn dathlu 150 o flynyddoedd o Bêl-droed y Gymdeithas’ ac enw’r chwaraewr, Denis Law yn yr achos hwn.

Cafodd yr un ar ddeg chwaraewr eu dewis am eu llwyddiant eithriadol ar y cae ac am gynrychioli eu gwledydd. Maent i gyd yn Oriel yr Anfarwolion yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol.
Yn y gôl yr oedd dyn y mae llawer yn ystyried mai ef oedd y ‘gôl-geidwad gorau i chwarae i Loegr erioed, sef Gordon Banks, gyda chapten tîm buddugol Cwpan y Byd Lloegr, Bobby Moore, chwaraewr gorau Cymru erioed o bosibl, John Charles, a chwaraewr chwedlonol yr Alban, Dave Mackay yn rhoi tri trawiadol yn y cefn. 

Mae ‘Captain Marvel’ Lloegr, Bryan Robson yn ei safle canol cae gerllaw Bobby Charlton, a gydnabyddir fel un o chwaraewyr pêl-droed gorau Lloegr erioed a Kevin Keegan, a enwyd yn Chwaraewr Ewropeaidd y Flwyddyn ddwywaith. 
Yn arwain y llinell yn y patrwm chwarae anturus hwn ceir yr asgellwr gosgeiddig o Loegr, John Barnes a’r athrylith o Ogledd Iwerddon, George Best, yn y safleoedd llydan. Mae’r ddau chwaraewr yn ddeuawd trawiadol o Jimmy Greaves Lloegr, un o’r chwaraewyr pêl-droed mwyaf naturiol ddawnus yn hanes y gêm, a Denis Law, chwaraewr eithriadol Cymdeithas Bêl-droed yr Alban o’r 50 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Alex Horne, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas Bêl-droed: “Mae’r Post Brenhinol wedi gwneud gwaith gwych yn creu’r casgliad trawiadol hyn o stampiau, ac mae’r gwaith celf gan Andrew Kinsman yn arbennig o drawiadol. Rwy’n siŵr y bydd yn atgof parhaus o 150 o flynyddoedd y Gymdeithas Bêl-droed ac yn deyrnged barhaus i’r chwaraewyr rhagorol hyn.”
Dywedodd Andrew Hammond, Rheolwr-gyfarwyddwr, Stampiau ac Eitemau Casgliadwy y Post Brenhinol: “Ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, rydym wedi bod yn ddigon ffodus i gael rhai o’r chwaraewyr pêl-droed gorau i chwarae’r gêm erioed. 
“Mae’r DG wedi rhoi rhai o’r campau gorau i’r byd ac mae’n iawn fod pêl-droed yn cael ei ddathlu fel obsesiwn cenedlaethol. Mae’r stampiau’n dathlu arwyr y gêm ragorol hon a wnaeth ragori ar y cae ar lefel clwb ac yn genedlaethol, ac mae’n iawn eu hystyried yn eiconau’r gamp. Rydym o’r farn nad oes teyrnged fwy addas i ben-blwydd y Gêm yn 150 oed na’r casgliad hwn o arwyr pêl-droed ar stampiau.” 

Gall cefnogwyr brynu’r stampiau o heddiw ymlaen yn www.royalmail.com/footballheroes, dros y ffôn ar 08457 641 641, ac mewn 9000 o Swyddfeydd Post ar draws y DG.

Natasha Ayivor
Royal Mail Press Office
100 Victoria Embankment
London EC4Y 0HQ
Ffôn: 020 7449 8250
Symudol: 07436 280002
Ebost: natasha.ayivor@royalmail.com
www.royalmail.com/stamps

Nodiadau i Olygyddion
Am bron i 50 o flynyddoedd, mae rhaglen Stampiau’r Post Brenhinol wedi coffáu a dathlu digwyddiadau a phen-blwyddi sy’n berthnasol i dreftadaeth a bywyd yn y DG. Heddiw, amcangyfrifir bod 2.5 miliwn o gasglwyr a rhoddwyr stampiau yn y DG a miliynau yn fyd-eang.
Mae stampiau a chynnyrch stampiau ar gael ym mhob Cangen o Swyddfa’r Post, ar-lein yn www.royalmail.com/stamps ac yn Royal Mail Tallents House (ffôn 08457 641 641), 21 South Gyle Crescent, Edinburgh, EH12 9PB. 

Ynglŷn â’r Gymdeithas Bêl-droed – yn cefnogi pêl-droed er 1863
Y Gymdeithas Bêl-droed yw’r corff llywodraethol, di-elw pêl-droed yn Lloegr. Mae’n cynyddu cyfranogiad, yn hyrwyddo amrywiaeth ac yn rheoleiddio’r gamp er mwyn i bawb ei mwynhau. 

Mae saith miliwn o chwaraewyr o bob oed, 400,000 o wirfoddolwyr, 300,000 o hyfforddwyr a 27,000 o ddyfarnwyr cymwys yn helpu’r Gymdeithas Bêl-droed i gadw’r gêm i fynd ar lawr gwlad.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn rhedeg 24 o dimau yn Lloegr, ar draws pêl-droed dynion, menywod, ieuenctid ac anabledd, gan ddefnyddio cyfleusterau Stadiwm Wembley a St. George’s Park, sydd o’r radd flaenaf. 

Pêl-droed yw hoff gêm y genedl. Nod y Gymdeithas Bêl-droed yw ei datblygu ymhellach yn 2013. 
I ganfod mwy am ddigwyddiadau yn ystod blwyddyn y Gymdeithas Bêl-droed yn 150 oed, ac i gymryd rhan mewn pêl-droed, ewch i www.TheFA.com a dilynwch @FA ar Twitter
 

 RHAI FFEITHIAU AM YR ARWYR PÊL DROED

1. Gordon Banks: Gwnaeth yr arbediad gorau erioed o bosibl gan Pelé yn ystod Gêm Derfynol Cwpan y Byd 1970
2. Bobby Moore: Capten Lloegr ym muddugoliaeth hanesyddol Cwpan y Byd 1966
3. Dave Mackay: Disgrifiwyd gan George Best fel ei wrthwynebydd anoddaf a dewraf
4. John Charles: Galwyd yn ‘Il Gigante Buono’, sy’n golygu Cawr Tyner, yn ystod ei gyfnod hynod lwyddiannus yn yr Eidal gyda Juventus
5. Bryan Robson: Fe’i pleidleisiwyd yn chwaraewr gorau erioed Manchester United mewn pleidlais o gyn-sêr Manchester United ar draws y degawdau yn 2011
6. Denis Law: Fe’i pleidleisiwyd yn chwaraewr eithriadol yr Alban dros yr 50 mlynedd diwethaf gan Gymdeithas Bêl-droed yr Alban yn 2003
7. Bobby Charlton: Goroesodd drychineb Munich ym 1958 pan fu farw wyth o’i gyd-chwaraewyr, aeth ymlaen i ennill Cwpan Ewrop i Manchester United ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ym 1968,
8. John Barnes: Sgoriodd gôl yn erbyn Brasil yn Stadiwm Maracana, Rio, a ddisgrifir yn aml fel gôl orau Lloegr erioed
9. George Best: Mae’n cael ei gydnabod fel y chwaraewr pêl-droed mwyaf naturiol ddawnus o Ogledd Iwerddon erioed
10. Jimmy Greaves: Chwaraeodd 57 o weithiau i Loegr gan sgorio 44 gôl
11. Kevin Keegan: Rhan o dîm Lloegr a enillodd hetiad o dlysau yn cynnwys Cwpan Ewrop cyntaf y clwb. Fe’i enwyd ddwywaith yn Chwaraewr Ewropeaidd y Flwyddyn
 

DISGRIFIADAU UNIGOL STAMPIAU ARWYR PÊL DROED:

Gordon Banks – Lloegr
Yn ddi-os y gôl-geidwad gorau i chwarae dros ei wlad, roedd Gordon Banks o Swydd Efrog yn hynod ddibynadwy ac yn bresenoldeb effeithiol y tu ôl i amddiffyniad Lloegr am bron i ddeng mlynedd, yn cynnwys ymgyrch lwyddiannus Cwpan y Byd 1966.

Sicrhaodd ei ddawn i ganolbwyntio, ei ymwybyddiaeth a’i safle ei fod yn lleihau’r angen i arbed y bêl mewn ffordd drawiadol, ond pan oedd yn rhaid iddo wneud hynny, roedd Banks hefyd yn arbennig o athletig ac yn ddawnus iawn yn atal y bêl. Mae arbediad anhygoel i atal Pelé, yr ymosodwr o Frasil, yn ystod Gêm Derfynol Cwpan y Byd 1970 yn cael ei ystyried fel y gorau erioed yn hanes chwaraeon.

Cafodd Banks, dyn tawel a gwylaidd, ei enwi’n Bêl-droediwr y Flwyddyn ym 1972, y flwyddyn cyn i anaf ei orfodi i ymddeol yn gynnar o’r gêm.

Bobby Moore – Lloegr
Gyda’i wallt melyn, ei wên barod a heintus, a’i natur hamddenol oedd yn sicrhau, byddai Bobby Moore wedi edrych fel arwr hyd oed pe na fyddai’n un o bêl-droedwyr gorau’r byd.

Un o’r amddiffynwyr mwyaf digynnwrf, roedd ei allu i ddarllen y chwarae a rhoi ei hun yn y lle iawn i chwalu amddiffyniad, heb ei debyg. Gyda’r bêl wrth ei draed, o ganlyniad i ymataliad neu dacl lân fel arfer, roedd ei gyffyrddiad, ei weledigaeth a’i ddosbarthiad mor dda nad oedd meddiant yn cael ei wastraffu’n aml iawn.

Bu’n gwasanaethu West Ham United yn ffyddlon am 16 o flynyddoedd. Cafodd Moore statws arwr yn y clwb yn nwyrain Llundain, a sicrhawyd cariad y genedl tuag ato am byth wrth iddo fod yn gapten ar Loegr yn ystod eu buddugoliaeth yng Nghwpan y Byd ym 1966.

Yn dilyn ei farwolaeth yn sgil canser y coluddion ym 1993, sefydlwyd Cronfa Booby Moore i godi arian ar gyfer ymchwil a chodi ymwybyddiaeth o’r salwch a achosodd ei farwolaeth yn 51 oed.

Dave Mackay – Yr Alban
Un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod. Roedd Dave Mackay, a aned yng Nghaeredin, yn chwaraewr canol cae cryf, penderfynol oedd yn nodedig am ei daclo caled a daeth ei ymrwymiad cadarn i yrru ei dîm ymlaen ar y cae yn enwog. Roedd hefyd yn bêl-droediwr medrus a dawnus, yn basiwr cywir ac yn sgorio goliau’n rheolaidd, ac roedd ganddo egni diddiwedd ac roedd yn aruthrol o weithgar.

Dywedodd Bill Nicholson, rheolwr tîm Tottenham Hotspur, a enillodd bencampwriaeth y cynghrair a’r Cwpan FA ym 1960/61, mai Scot oedd y chwaraewr gorau iddo ei lofnodi erioed. Disgrifiodd George Best ef fel ei wrthwynebydd anoddaf a dewraf a galwodd Brian Clough ef yn gapten delfrydol, oedd yn rhoi rhodres i’w dîm o Swydd Derby.

Aeth Mackay ei hun ymlaen i fwynhau llwyddiant fel rheolwr, gan arwain Swydd Derby i lwyddiant Pencampwriaeth y Cynghrair ym 1974/75.

George Best, Gogledd Iwerddon
Pan welodd Bob Bishop, chwilotwr Manchester United wedi ei leoli yng Ngogledd Iwerddon, George Best am y tro cyntaf yn 15 oed, dywedodd wrth reolwr United ar y pryd, sef Matt Busby: “Rwy’n credu fy mod wedi dod o hyd i athrylith.” Ni chafodd ei siomi gan ei reddf.

Chwaraewr hynod fedrus, chwim a allai basio, saethu, taclo, penio ond yn anad dim, driblo’r bêl gyda’r fath ragoriaeth nas gwelir fwy nag unwaith mewn cenhedlaeth. Roedd gan Best yr edrychiad a’r gyfaredd i gyd-fynd â’i ddawn, cyfuniad oedd yn golygu ei fod yn byw ei fywyd ar y cae ac oddi arno o dan sylw parhaus y cyfryngau.

Er iddo ganfod bod ymdopi â’r fath bwysau yn her barhaus, gyda’r bêl wrth ei draed, gellir dadlau mai Best oedd y pêl-droediwr mwyaf dawnus y mae’r wlad wedi ei weld erioed.

Kevin Keegan, Lloegr
Yn fywiog, yn ddewr, yn gryf, yn fedrus, gyda’r sbardun i lwyddo a wnaeth i reolwr Lerpwl, Bill Shankly, ei ddisgrifio fel enillwr greddfol, roedd Kevin Keegan yn rym hanfodol yn nhîm rhagorol Anfield yn y 1970au, gan ffurfio partneriaeth ymosod beryglus gyda John Toshack mewn cyfnod pan enillodd y clwb saith prif dlws.

Roedd bob amser mor frwdfrydig a ffraeth oddi ar y cae ag ydoedd gyda’r bêl, am gyfnod, rhagorodd Keegan ar bêl-droed, gan ddod yn un o ffigurau symbolaidd y degawd cyn symud i’r Almaen a chael ei enwi’n Bêl-droediwr Ewropeaidd y Flwyddyn ddwywaith.

Roedd Keegan yn ysgogwr oedd yn ysbrydoli, ac aeth ymlaen i gael llwyddiant sylweddol fel rheolwr gyda Newcastle United a Fulham cyn mynd ymlaen i reoli Lloegr.

Bryan Robson, Lloegr
O bosibl chwaraewr canol cae mwyaf cyflawn ei genhedlaeth. Gwnaeth gwydnwch diddiwedd a pharodrwydd Bryan Robson i roi popeth oedd ganddo ef yn freuddwyd i reolwr clwb a gwlad.

Yn ffyrnig ond yn lân yn y dacl ac yn ddosbarthwr cywrain mewn meddiant, roedd Robson yn mor nodedig am ei amseru a’i rediadau i ardal gosb y gwrthwynebwyr ei fod yn aml heb ei farcio pan oedd yn sgorio. Roedd ei ddewrder a’i ymrwymiad weithiau’n arwain at anaf, ond gwnaeth ei esiampl penderfynol ef yn arweinydd naturiol ac yn gapten i Manchester United a Lloegr.

Cafodd y graddau yr oedd yn cael ei werthfawrogi gan ei gyd-chwaraewyr ei ddatgelu gan bleidlais yn 2011 o gyn-sêr Manchester United dros y degawdau. Enillodd y rhan fwyaf o’r bleidlais a chafodd ei enwi’n chwaraewr gorau’r clwb erioed.

John Barnes, Lloegr
Fe’i llofnodwyd gan Watford o dîm nad oedd yn y cynghrair am bris set o ddillad pêl-droed cyn symud i Lerpwl ym 1987. Disgrifiwyd John Barnes gan lawer o’i gyd-chwaraewyr yn Lerpwl a Lloegr fel y pêl-droediwr gorau iddynt chwarae gydag ef erioed.

Roedd Barnes yn ddriblwr hynod ddawnus a gosgeiddig. Roedd hefyd yn gryf ac yn gyflym, cyfuniad o rinweddau oedd yn golygu nad oedd modd ei chwarae ar adegau. Roedd hefyd yn basiwr ac yn orffennwr cywir a chreadigol nad oedd yn rhoi’r bêl i ffwrdd yn aml ac oedd yn gyfforddus unrhyw le yng nghanol cae neu yn y blaen.

Gan chwarae i Loegr yn erbyn Brasil yn Stadiwm Maracanã yn Rio de Janeiro ym mis Mehefin 1984, driblodd Barnes heibio i bedwar amddiffynnwr a’r gôl-geidwad gan sgorio gôl ragorol, gôl orau Lloegr erioed yn ôl rhai.

Ym 1990, perfformiodd John yr adran rap yng nghân New Order a aeth i rif un yn y siartiau, sef ‘World in Motion’, a ryddhawyd fel rhan o ymgyrch Cwpan y Byd Lloegr.

Denis Law, Yr Alban
Cafodd Denis Law ei enwi yn ‘The King’ gan gefnogwyr Manchester United yn ystod ei 13 mlynedd yn Old Trafford, oedd yn deyrnged i’r ffordd yr oedd yr ymosodwr o’r Alban yn ymddwyn oddi ar y cae yn ogystal â’i gofnod rhagorol o sgorio goliau.

Roedd yn eithriadol yn yr awyr yn ogystal â phan oedd y bêl wrth ei draed, roedd ei ymwybyddiaeth a’i gyflymder yn ei wneud yn anodd iawn i’w farcio, ond roedd y corff bach a’r wên ddireidus yn gamarweiniol: gwnaeth sgiliau taclo Law, yn ogystal â’i ddawn greadigol a’i allu i basio’r bêl ef mor ddylanwadol ar ganol cae ag ydoedd yn y blaen.

Roedd mor effeithiol i’w wlad ag ydoedd i’w glybiau. Yn 2003, enwodd Cymdeithas Bêl-droed yr Alban Law fel chwaraewr mwyaf eithriadol yr Alban yn yr 50 mlynedd blaenorol.

Bobby Charlton, Lloegr
Bobby Charlton o bosibl oedd pêl-droediwr gorau Lloegr erioed. Roedd yn chwaraewr canol cae ymosodol a chwaraeodd ei bêl-droed i gyd bron i Manchester United a Lloegr, gan greu record o ran sgorio goliau i’r ddau.

Gan feddu ar ergyd hynod bwerus a chywir o bell gyda’r ddwy droed, roedd Charlton yn bresenoldeb ymrwymedig, medrus a gweithgar ar y cae, gyda gallu eithriadol i ddod o hyd i ofod a’i greu ar gyfer eraill. Disgrifiodd y rheolwr Syr Alf Ramsey ef fel conglfaen tîm buddugol Lloegr yng Nghwpan y Byd 1966, ac wedi hynny fe’i pleidleisiwyd yn chwaraewr gorau’r gystadleuaeth honno.

Goroesodd trychineb awyr Munich ym 1958 pan gafodd wyth o’i gyd-chwaraewyr eu lladd. Cafodd Charlton ei nodi am ei chwarae teg trwy gydol ei yrfa benigamp.

John Charles, Cymru
Mae’n cael ei ystyried gan lawer i fod yn chwaraewr gorau Cymru erioed ond hefyd yn chwaraewr cyffredinol gorau Prydain. Roedd John Charles, oedd yn gryf ac yn dal, yn ymosodwr rhagorol ac effeithiol a hefyd yn ymosodwr canol cae pennaf.

Mae’n cael ei nodi’n arbennig am ei allu i benio, ond roedd ganddo gyffyrddiad da ac ergyd bwerus. Gallai Charles hefyd chwarae cefnwr neu ganol cae. Cafodd ei alw’n ‘Gawr Tyner’ yn ystod cyfnod arloesol a hynod lwyddiannus gyda Juventus rhwng 1957 a 1962, Gwrthododd Charles chwarae’n fudr yn bwrpasol ac ni chafodd rybudd erioed, heb son am gael ei anfon oddi ar y cae, yn ystod ei yrfa dros 23 o flynyddoedd.

Ym 1997, 35 mlynedd ar ôl ei ymddangosiad olaf yn yr Eidal, pleidleisiwyd Charles yn chwaraewr gorau nad oedd yn Eidalwr i fod wedi chwarae yn uwch-adran y wlad.

Jimmy Greaves, Lloegr
Un o’r sgorwyr goliau mwyaf naturiol ddawnus yn hanes y gêm. Chwaraeodd Jimmy Greaves 57 waith i Loegr a sgoriodd 44 o goliau, cymhareb ryngwladol drawiadol a fyddai’n sicrhau lle iddo mewn unrhyw oriel anfarwolion ym myd pêl-droed.

Ar ôl dechrau ei yrfa a chael llwyddiant sylweddol yn Chelsea, treuliodd Greaves naw mlynedd yn Tottenham Hotspur, lle sgoriodd 266 o goliau mewn 379 o gemau. Ond caiff y dyn dewr, cyflym ac anodd ei ddal o Lundain ei gofio am y ffordd yr oedd yn sgorio yn ogystal â nifer y cyfleoedd i sgorio a drosodd.

Ar ôl ymddeol o bêl-droed, aeth ymlaen i fod yn arbenigwr teledu poblogaidd.