News and press releases

  • Royal Mail
    Great Britons 220.jpeg
    17 April 2013
    Y Post Brenhinol yn dathlu ‘Mawrion Prydain’ wrth lansio’r casgliad stampiau diweddaraf
  • Heddiw mae’r Post Brenhinol yn rhyddhau ei Stampiau Arbennig ‘Mawrion Prydain’. Mae’r set o ddeg stamp Dosbarth 1af yn dathlu unigolion y mae pen-blwydd eu geni neu eu camp eithriadol yn ystod 2013
  • Mae’r stampiau’n dathlu detholiad o unigolion nodedig o feysydd chwaraeon, newyddiaduraeth, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a’r celfyddydau
  • Mae’r actor Peter Cushing, y newyddiadurwr a’r darlledwr Richard Dimbleby a’r arwr pêl-droed Bill Shankly yn cael eu dathlu
  • Mae’r actores Vivien Leigh a’r ffotograffydd ffasiwn Norman Parkinson hefyd yn cael eu cynnwys yn y set
  •  Yn cwblhau’r set mae’r archeolegydd a’r anthropolegydd Mary Leakey, y cyn Brif Weinidog David Lloyd George, Maer Battersea John Archer, yr awdur coginio Elizabeth David a’r cyfansoddwr Benjamin Britten
  • Mae stampiau Mawrion Prydain ar gael mewn Swyddfeydd Post, ar-lein yn www.royalmail.com/greatbritons a thros y ffôn ar 08457 641 641
     

Heddiw mae’r Post Brenhinol yn cyhoeddi set o ddeg stamp Dosbarth 1af yn dathlu rhai o fawrion Prydain a’u cyflawniadau.
Yn dwyn y teitl ‘Mawrion Prydain’, mae’r stampiau’n dathlu unigolion o feysydd chwaraeon, newyddiaduraeth, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a’r celfyddydau y mae pen-blwydd eu geni yn 2013.

Mae’r actores fyd enwog Vivien Leigh, sy’n enwog am ei rhannau blaenllaw yn Gone with the Wind a A Streetcar Named Desire, yn cael sylw, ynghyd â’r actor Peter Cushing, sy’n fwyaf enwog efallai am chwarae rhan Baron Frankenstein a Doctor Van Helsing yn y ffilmiau arswyd a gynhyrchwyd gan Hammer Film Productions. O’r byd chwaraeon daw’r chwaraewr a’r rheolwr pêl-droed o’r Alban William ‘Bill’ Shankly. Yn cael ei ystyried yn un o’r rheolwyr mwyaf llwyddiannus ac uchaf ei barch, Shankly oedd rheolwr Lerpwl o 1959 hyd at 1974, yn eu harwain i frig yr Adran Gyntaf ym 1964, 1966 a 1973, i ennill Cwpan yr FA ym 1965 a 1974 ac yn bencampwyr Cwpan UEFA ym 1974.

Mae unigolion nodedig o’r byd gwleidyddol hefyd yn cael eu cynnwys gyda’r unig Brif Weinidog o Gymru, David Lloyd George, a John Archer, y maer cyntaf o dras Du-Caribïaidd i arwain Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Llundain
Mae un o hoff gyfansoddwyr clasurol y DG, Benjamin Britten hefyd yn un o’r deg a’r ffotograffydd portreadau a ffasiwn enwog Norman Parkinson o’r byd celfyddydol.
Mae Richard Dimbleby, y newyddiadurwr, darlledwr a thad David a Jonathan Dimbleby, yn cael ei gynnwys yn y set o stampiau Dosbarth 1af, yn ogystal â’r awdur coginio enwog Elizabeth David, sy’n cael clod am gyflwyno Prydain i goginio ‘egsotig’ y Canoldir wedi’r rhyfel, oedd yn cynnwys cynhwysion fel afocado, pasta, olew olewydd a phupur coch.

Yn cwblhau’r deg mae’r archeolegydd a’r anthropolegydd blaenllaw, Mary Leakey, oedd yn enwog am orfodi gwyddonwyr i ailystyried y farn draddodiadol am esblygiad dynol diolch i’w chanfyddiadau arwyddocaol.
Nigel Fountain, yr awdur a’r cyhoeddwr, sydd wedi ysgrifennu’r pecyn cyflwyno, sy’n cynnwys golwg gyffredinol ar fywydau Mawrion Prydain ar y stampiau.

Dywedodd Andrew Hammond, Llefarydd Stampiau’r Post Brenhinol: “Rydym yn falch iawn o anrhydeddu rhai o’r unigolion mwyaf nodedig yn hanes y DG trwy ein casgliad diweddaraf o Stampiau Arbennig. Rydym yn gobeithio y bydd y stampiau’n deyrnged barhaol er cof amdanynt a’u cyfraniad sylweddol i’n ffordd Brydeinig o fyw.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Natasha Ayivor
Royal Mail Press Office
100 Victoria Embankment
London EC4Y 0HQ
Ffôn: 07436 280002
Ebost: natasha.ayivor@royalmail.com
www.royalmail.com/stamps

NODIADAU I OLYGYDDION
Am bron i 50 mlynedd, mae rhaglen Stampiau Arbennig y Post Brenhinol wedi coffáu a dathlu digwyddiadau a phen-blwyddi sy’n berthnasol i dreftadaeth a bywyd y DG. Amcangyfrifir bod 2.5 miliwn o gasglwyr a rhoddwyr stampiau yn y DG heddiw a miliynau ar draws y byd. Mae Ei Mawrhydi Y Frenhines yn cymeradwyo dyluniad holl stampiau’r DG cyn iddynt gael eu hargraffu. Mae stampiau a chynnyrch stampiau ar gael yn y rhan fwyaf o ganghennau Swyddfa’r Post, ar-lein yn www.royalmail.com/stamps ac yn Royal Mail Tallents House (ffôn. 08457 641 641), 21 South Gyle Crescent, Edinburgh, EH12 9PB.
 

RHAI FFEITHIAU AM FAWRION PRYDAIN
1. Norman Parkinson: Ganwyd Ronald William Parkinson Smith ym 1913, ac roedd yn un o ffotograffwyr portreadau a ffasiwn enwocaf y byd. Yn ystod y 1930au agorodd Parkinson stiwdio gyda phartner busnes, Norman Kibblewhite. Pan wahanodd y ddau, newidiodd Parkinson ei enw i enw’r busnes - Norman Parkinson
2. Vivien Leigh: Aeth Leigh i ysgol gwfaint ac ar un ymweliad fe aeth ei mam â hi i weld drama ar West Side enwog Llundain. Dyma’r profiad a wnaeth iddi benderfynu ei bod am fod yn actores (IMDB.com)
3. Peter Cushing: Dychwelodd Cushing o Hollywood i gyfrannu at ymdrechion Prydain yn yr Ail Ryfel Byd ac ymunodd â ‘r Entertainment National Services Association (IMDB.com)
4. Mary Leakey: I nodi ei phen-blwydd yn 100 oed, fe greodd Google Doodle ar ei hafan yn ei dangos yn gweithio’n galed ar gloddfa (Guardian.co.uk)
5. David Lloyd George: Ym 1944, cafodd Lloyd George ei wneud yn Iarll a’i deitl swyddogol o hynny ymlaen oedd Iarll Lloyd George o Ddwyfor (BBC.co.uk)
6. Benjamin Britten: Mae Britten yn fwyaf enwog am ei gerddoriaeth i’r llais: gweithiau corawl, caneuon a chylchoedd caneuon, a chyfres o operâu y dywedir eu bod ymysg y mwyaf swynol i gael eu hysgrifennu erioed (brittenpears.org)
7. John Archer: Archer oedd y person cyntaf o dras Du-Caribïaidd i gael swydd ddinesig yn Llundain (100greatblackbritons.com)
8. Bill Shankly: Aeth Shankly i weithio i’r pwll lleol pan adawodd yr ysgol ond ar ôl dwy flynedd roedd allan o waith (Shankly.com)
9. Elizabeth David: Gwnaeth y BBC ffilm am fywyd David yn 2006 o’r enw Elizabeth David: A Life in Recipes (Independent.co.uk)
10. Richard Dimbleby: Yn Ionawr 2013, Bill Gates oedd yn traddodi Darlith Richard Dimbleby 2013 - anerchiad a sefydlwyd er anrhydedd iddo. Mae unigolion dylanwadol o fyd busnes neu wleidyddiaeth wedi traddodi’r ddarlith bron bob blwyddyn er 1972 (RadioTimes.co.uk)

MAWRION PRYDAIN, STAMP WRTH STAMP:

 

Norman Parkinson
Tynnodd y ffotograffydd Norman Parkinson (1913-90) luniau o löwyr tlawd o Gymru a’u teuluoedd ar ddiwedd y 1930au, modelau ar ben nendyrau Efrog Newydd ar ddiwedd y 1940au, sêr y ffilmiau yn y 1950au a’r Beatles yn y 1960au. Ym 1980, tynnodd Parkinson y ffotograff enwog ‘Blue Trinity’ o’r Frenhines, y Fam Frenhines a’r Dywysoges Margaret, portread oedd wedi ei gomisiynu’n arbennig i nodi pen-blwydd y Fam Frenhines yn 80 oed. Er iddo ddechrau ei yrfa yn portreadu boneddigion, cafodd ffotograffiaeth newyddion ddylanwad cryf arno a chyn hir fe aeth â’i gamera allan o’r stiwdio, ar y strydoedd ac ar draws y byd.
Ganwyd Ronald William Parkinson Smith yn Roehampton, yn fab i fargyfreithiwr a mam hanner Eidalaidd. Cafodd ei addysgu yn Ysgol San Steffan yn Llundain o 1927 hyd at 1931, yna cafodd brentisiaeth gyda ffotograffydd llys ar Bond Street. Dair blynedd yn ddiweddarach roedd wedi newid ei enw i Norman Parkinson, ac roedd yn berffeithydd gyda’i stiwdio eu hun yn Mayfair. Yn fuan wedyn daeth ei waith cyntaf ar gyfer cylchgrawn a roddodd gyfle iddo ddangos y ‘realaeth actol’ y daeth yn enwog amdano.

Vivien Leigh
Ar 10 Rhagfyr 1938, ymwelodd yr actores Vivien Leigh â set y ffilm Gone with the Wind (1939) yn Hollywood i gwrdd â chynhyrchydd y ffilm David O Selznick. Bythefnos wedi ei phrawf sgrîn, cafodd gynnig y rhan yr oedd pawb ar ei ôl, sef Scarlett O’Hara. Un o sêr ffilmiau mwyaf yr oes, yn arbennig o brydferth ac yn actores ymroddedig, derbyniodd Leigh Wobr Academi ym 1940 am ei pherfformiad fel Scarlett ac un arall ym 1952 am chwarae Blanche DuBois yn y ffilm A Streetcar Named Desire (1951).
Ganwyd Vivian Mary Hartley yn Darjeeling, India ym 1913. Cafodd ei haddysg mewn ysgol gwfaint yn Lloegr a gorffennodd ei hastudiaethau yn Ewrop. Ym 1932, cofrestrodd yn y Royal Academy of Dramatic Art yn Llundain ac ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf dair blynedd yn ddiweddarach. Tra roedd yn ffilmio Fire Over England (1937) cyfarfu â’r actor Laurence Olivier, a daeth yn wraig iddo ym 1940.
Ar noswaith 8 Gorffennaf 1967, ar ôl cyhoeddi marwolaeth Leigh, cafodd goleuadau allanol West End Llundain eu diffodd am awr er cof amdani.

Peter Cushing
Yn rhychwantu dros bedwar degawd, roedd gyrfa actio amrywiol Peter Cushing (1913-94) yn cynnwys rhannau cofiadwy fel Doctor Van Helsing a Baron Frankenstein yn ffilmiau arswyd ‘Hammer Horror’, Sherlock Holmes, y dihiryn Grand Moff Tarkin yn Star Wars (1977) - a rhan fythgofiadwy Winston Smith yn addasiad y BBC o Nineteen Eighty Four gan George Orwell (1954).
Ganwyd Peter Wilton Cushing yn Kenley, Surrey. Ar ôl gadael yr ysgol, dilynodd yng nghamau ei dad a daeth yn syrfëwr meintiau cynorthwyol. Cafodd ei ysbrydoli gan ei fodryb oedd yn actores ac erbyn 1935 roedd wedi cofrestru yn y Guildhall School of Music and Drama, ac ymddangosodd ar lwyfan am y tro cyntaf y flwyddyn ganlynol. Symudodd i Hollywood ym 1939, a chwarae amryw o rolau llai, cyn dychwelyd i’r DU ym 1942 ac ymuno ag ENSA (Entertainments National Service Association) er mwyn cyfrannu at yr ymgyrch ryfel. Cyfarfu â chariad mawr ei fywyd, yr actores Helen Beck, yn yr un flwyddyn a phriododd hi ym 1943.
Daeth Cushing yn wyneb cyfarwydd ar deledu yn ystod y 1950au a dechreuodd ei gysylltiad enwog â Hammer Film Productions yn nes ymlaen yn y ddegawd honno.

David Lloyd George
Areithiwr huawdl, trafodwr gwych a chawr gwleidyddol, mae David Lloyd George (1863–1945) yn ddyn y mae ei gyflawniadau yn dal i atseinio yn y 21ain ganrif. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd ei ddiwygiadau cymdeithasol fel Canghellor y Trysorlys, oedd yn cynnwys cyflwyno pensiwn y wladwriaeth ac yswiriant gwladol, yn sail i’r wladwriaeth les Brydeinig. Yn ystod y rhyfel, fel Canghellor (1908–15), y Gweinidog dros Arfau (1915–16) a’r Gweinidog Rhyfel (1916) llwyddodd Lloyd George i drawsnewid gweinyddiaeth economi Prydain. Fel Prif Weinidog o 1916, roedd y ‘Dewin Cymreig’ yn ffigwr allweddol ymysg y Cynghreiriaid a helpodd i arwain y genedl i fuddugoliaeth ym 1918.
Ganwyd Lloyd George ym Manceinion, yn fab i ysgolfeistr. Cafodd ei fagu gan ei fam weddw yn ei chartref ym mhentref Llanystumdwy yng Ngwynedd, Cymru, lle’r aeth i’r ysgol leol hyd nes yr oedd yn 15 oed. Anogodd ei ewyrth ef i hyfforddi’n gyfreithiwr, ac fe gymhwysodd a sefydlu practis yng Nghricieth. Ym 1890, daeth yn AS dros Fwrdeistref Caernarfon, sedd a gadwodd hyd at flwyddyn ei farwolaeth, ac ymunodd â’r Cabinet yn dilyn buddugoliaeth ysgubol y Rhyddfrydwyr ym 1906.

Elizabeth David
Ym 1950, yng nghanol llymder Prydain yn dilyn bomio’r rhyfel, fe roddodd Elizabeth David (1913–92) gipolwg i bobl Prydain ar “wledydd bendigaid yr haul a’r môr a’r coed olewydd” wrth gyhoeddi A Book of Mediterranean Food. Dyma oedd y gyfrol gyntaf mewn cyfres a sefydlodd David fel yr awdur Saesneg gorau ar goginio a diwylliant bwyd. Flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd French Country Cooking, yna Italian Food (1954), Summer Cooking (1955) a French Provincial Cooking (1960).
Fe’i ganwyd ger Polegate yn Sussex, yn ferch i AS Ceidwadol a chafodd Elizabeth Gwynne, fel y’i galwyd, ei bedyddio yng nghapel Tŷ’r Cyffredin. Llwyddodd i chwyldroi’r ffordd yr oedd Prydeinwyr yn siopa, paratoi a meddwl am fwyd. Ysbrydolwyd gweithiau cynharaf David gan ei phrofiadau a’i hanturiaethau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn Ffrainc, yr Eidal, Groeg a’r Aifft ac yn ddiweddarach yn ei bywyd fe drodd ei sylw at fwyd Seisnig.

John Archer
Ar 10 Tachwedd 1913 dywedodd John Archer (1863–1932) wrth ei gyd-gynghorwyr yn Battersea bod hanes wedi cael ei greu, wedi iddynt ei gefnogi i fod yn faer cyntaf o dras Du-Caribïaidd yn Llundain, a’r ail ym Mhrydain.
Roedd bywyd Archer yn ddilyniant o ddigwyddiadau blaenllaw. Pan gynhaliwyd y Gynhadledd Pan-Affricanaidd gyntaf yn Llundain ym 1900, roedd Archer, myfyriwr meddygaeth ar y pryd, yn bresennol. Chwe blynedd yn ddiweddarach, roedd cael ei ethol yn gynghorydd am y tro cyntaf yn arwydd o’r bywyd hir mewn gwleidyddiaeth radical a sosialaidd lleol a rhyngwladol oedd i ddilyn.
Daeth yn llywydd cyntaf (1918–21) yr African Progress Union ac ym 1919 aeth i gynrychioli Prydain yn y Gyngres Pan-Affricanaidd arloesol ym Mharis. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cadeiriodd sesiwn pan gyfarfu’r Gyngres yn Llundain.
Ganwyd John Richard Archer mewn ardal dlawd o Lerpwl ym 1863, yn fab i stiward llong o Barbados a mam Wyddelig. Saith mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, fe setlodd John Archer a’i wraig Affricanaidd-Canadaidd yn Battersea, lle byddai ei yrfa wleidyddol yn datblygu yn hwyrach yn ei fywyd.

Benjamin Britten
Perfformiwyd yr opera Peter Grimes am y tro cyntaf yn Theatr Sadler’s Wells yn Llundain ym 1945. Cafodd ei pherfformio yng nghanol adfeilion blits Llundain ac roedd yn dwyn i gof syniad diamser o’r môr, arfordir Suffolk a cholli diniweidrwydd. Roedd ei chyfansoddwr, Benjamin Britten (1913-76), wedi ysgrifennu campwaith oedd yn canolbwyntio ar “frwydr yr unigolyn yn erbyn y dorf”. Er bod Britten eisoes yn gyfansoddwr uchel ei barch ar yr adeg honno, wrth iddo barhau i greu gweithiau mawr fe dyfodd ei enw da rhyngwladol yn ddifesur.
Cafodd Edward Benjamin Britten ei eni yn Lowestoft yn Suffolk, yr ieuengaf o bedwar o blant. Llawfeddyg deintyddol oedd ei dad ac roedd ei fam yn gantores a phianydd amatur brwd. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gresham’s yn Holt, Norfolk ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain. Ym 1937 cyfarfu Britten â’r tenor ifanc Peter Pears, a ddaeth yn bartner personol a phroffesiynol iddo. Gyda’i gilydd aethant â’u cerddoriaeth ar draws y byd ac ym 1948 fe sefydlwyd Gŵyl Aldeburgh ar arfordir Suffolk ganddynt.

Mary Leakey
Gallai teithiau darganfod Mary Leakey (1913–96) ddechrau gyda darn o asgwrn, tamaid o ffosil diddorol yr olwg, arf carreg cyn hanesyddol neu gelf ar graig. Am dros hanner canrif, chwaraeodd yr archeolegydd a’r palaeoanthropolegydd ran allweddol yn ymchwilio i wreiddiau dynoliaeth, a arweiniodd at sawl darganfyddiad arwyddocaol, fel y penglog hominid Australopithecus boisei a'r olion traed Laetoli yn Tanzania.
Ganwyd Mary Douglas Nicol yn Llundain, yn unig blentyn i’r tirlunydd Erskine Nicol. Dechreuodd diddordeb Mary mewn archeoleg baleolithig yn ystod ei phlentyndod ar gloddfeydd archeolegol ac ymweliadau ag ogofeydd yn Ffrainc. Ar ôl cael ei diarddel o ddwy ysgol dechreuodd, yn answyddogol, fynychu darlithoedd mewn daeareg ym Mhrifysgol Llundain ac mewn archeoleg yn Amgueddfa Llundain. Erbyn cyrraedd 17 oed roedd wedi dechrau tynnu lluniau darganfyddiadau a ddadorchuddiwyd ar safleoedd cloddio yn Nyfnaint, yna, ym 1933, cyfarfu â’r archeolegydd a’r naturiaethwr Louis Leakey a chafodd wahoddiad i ddarlunio un o’i lyfrau. Dair blynedd yn ddiweddarach fe briodwyd y ddau ac aeth Mary ymlaen i wneud enw mawr iddi ei hun ym maes astudio tarddiad dynol.

Bill Shankly
Y dyn a’r cawr. Fel rheolwr Clwb Pêl-droed Lerpwl o 1959 hyd at 1974, arweiniodd Bill Shankly (1913–81) y clwb i’w fuddugoliaeth gyntaf yng Nghwpan yr FA ym 1965, ac yna ym 1974, blwyddyn ei ymddeoliad. Yn ystod cyfnod hynod o lwyddiannus yn hanes Clwb Pêl-droed Lerpwl, enillwyd Pencampwriaeth y Cynghrair ym 1964, 1966 a 1973. Fel chwaraewr o 1932 i 1949, enillodd Shankly fedal Cwpan yr FA gyda Preston North End ym 1938 a chynrychiolodd yr Alban 12 gwaith. Cyn iddo gyrraedd Glannau Mersi ym 1959 bu’n rheolwr ar Carlisle United, Grimsby Town, Workington a Huddersfield Town.
Roedd ei fuddugoliaethau yn Lerpwl yn eithriadol ond yr hyn a wnaeth Shankly’n gawr yn ‘y gêm brydferth’ ac yng nghymdeithas Prydain oedd ymroddiad llwyr i’r gamp ac i’w dîm, oedd yn ymgorffori ysbryd y dref a’i mabwysiadodd. Cafodd ei eni’n nawfed o ddeg o blant mewn teulu dosbarth gweithiol yn Glenbuck, Swydd Ayr ac roedd gwleidyddiaeth sosialaidd Bill Shankly’n adlewyrchu ei fagwraeth a’i athroniaeth ymarferol. Daeth gwir lwyddiant trwy ymdrech gyfunol, ysgrifennodd, ‘gyda phawb yn gweithio i’w gilydd, yn helpu ei gilydd, a phawb yn rhannu’r wobr ar ddiwedd y dydd”.

Richard Dimbleby
Ymunodd Richard Dimbleby (1913–65) â’r BBC fel ei gohebydd radio cyntaf ac yn ddiweddarach fel ei gohebydd rhyfel cyntaf. Daeth yn rhan annatod o newyddiaduraeth rhyfel ar y radio, yn hedfan ar sawl cyrch bomio dros yr Almaen. Yn Ebrill 1945, bu’n llygad dyst i ryddhau carcharorion o’r gwersyll Natsïaidd yn Bergen-Belsen gan y Prydeinwyr, gan ddisgrifio’r diwrnod fel “diwrnod mwyaf erchyll fy mywyd”.
Yn y blynyddoedd wedi’r rhyfel, roedd sylwebaeth Dimbleby ar y radio ac yna ar deledu, yn gyfrifol am lunio canfyddiad pobl o’r newyddion. Adroddodd ar goroni Elizabeth II (1953), Rhyfel y Suez a’r Chwyldro yn Hwngari (1956), Argyfwng Taflegrau Ciwba (1962) ac angladdau'r Arlywydd Kennedy (1963) a Syr Winston Churchill (1965). Bu hefyd yn cyflwyno’r rhaglen materion cyfoes Panorama ar y BBC o 1955 hyd at 1965.
Cafodd Frederick Richard Dimbleby ei eni yn Richmond, Surrey, yn fab i newyddiadurwr a pherchennog papur newydd lleol, a chafodd ei addysgu yn ysgol Mill Hill yn Llundain. Ymunodd â’r BBC yn dilyn cyfnod fel newyddiadurwr papur newydd ac yn fuan iawn fe ddaeth yn llais cenedl.