Skip main navigation

Rheoleiddio

Y Ddeddf Gwasanaethau Post 2000 a sefydlodd Postcomm, y Comisiwn Gwasanaethau Post, yn rheolydd ar ddarparwyr gwasanaethau post yn y DU

Mae’r Ddeddf yn gofyn i Postcomm sicrhau darpariaeth o wasanaeth post cyffredinol, am bris unffurf, ledled y DU.  Mae Postcomm yn gyfrifol hefyd am hyrwyddo cystadleuaeth effeithiol rhwng gweithredyddion post os yw er budd y cwsmeriaid. Mae angen trwydded Postcomm ar yr holl gwmnïau neu unigolion sy’n cludo llythyrau sy’n pwyso llai na 350 gram. Erbyn mis Rhagfyr 2005, roedd Trwyddedau wedi’u caniatáu i 15 cwmni, gan gynnwys Grwp y Post Brenhinol. 

Gellir gorfodir pob trwydded yn gyfreithiol. Mae deiliaid trwyddedi wedi’u hawdurdodi i gludo llythyrau yn y DU, ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r amodau a amlinellwyd yn eu trwydded.  Mae’r amodau yn cynnwys gofyniad i gadw at godau arfer y gwasanaethau post, i ddarparu gwybodaeth i Postcomm a sefydlu systemau i ddelio â chwynion. Yn unigryw, mae trwydded y Post Brenhinol hefyd yn cynnwys safonau gwasanaeth gorfodol, yn cyfyngu ar y prisiau y gallwn godi ar ein cwsmeriaid, ac yn gofyn i ni ddarparu gwasanaeth post cyffredinol.

Mae’r adran hon ar ein gwefan yn cynnwys copi o’n Trwydded Gweithredu, a’n hymatebion i gynigion Postcomm am newidiadau i’r fframwaith rheoleiddio. 

Darllenwch ynghylch ein Trwydded, a deddfwriaeth gwasanaethau post

Rheoleiddir y Post Brenhinol yn unol â deddfwriaeth y DU ac Ewrop

Darllenwch am ein ‘gwasanaeth cyffredinol’

Mae’r Post Brenhinol yn darparu ‘gwasanaeth cyffredinol’ i’r DU, fel y diffinnir gan y Ddeddf Gwasanaethau Post 2000. 

Darllenwch ddogfennau yn ymwneud â’n marchnad agored

O fis Ionawr 2006 ymlaen mae marchnad gwasanaethau post y DU yn gwbl agored i gystadleuaeth

Rheoli Prisiau

Rheoleiddir prisiau'r Post Brenhinol gan Postcomm. Dyma ein hymatebion i’w hadolygiadau ar reoli prisiau

Darllenwch am ‘brisio yn gymesur’

Yn fuan, bydd cost anfon post yn dibynnu ar faint yr eitem ynghyd â’i phwysau