News and press releases

  • Royal Mail
    Royal Mail will feature Team GB Olympic Gold medal athletes on special stamps
    18 June 2012
    Stampiau Medal Aur y Diwrnod Wedyn y Post Brehinol
  • Heddiw bydd y Post Brenhinol yn datgelu’r 500-plws cangen o Swyddfa’r Post a fydd yn gwerthu’r stampiau Medal Aur Tîm PF o fewn 24 awr ar ôl i Dîm PF ennill medal aur. Dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn achos stampiau diwrnod-wedyn y Post Brenhinol
  • Bydd pob un o’r canghennau hyn yn agor ar ddydd Sul yn ystod Gemau Olympaidd Llundain 2012 Games, llawer ohonynt am y tro cyntaf. Mae hyn yn ychwanegol at eu horiau agor arferol. Yn y Nodiadau i Olygyddion gwelir manylion y canghennau hyn.
  • Bydd stampiau Medal Aur Tîm PF ar gael i’w prynu fesul un am y pris safonol ar gyfer  Dosbarth Cyntaf sef 60c neu mewn setiau o chwech o stampiau am £3.60.
  • Bydd 4,700 cangen arall o Swyddfa’r Post yn gwerthu’r stampiau Medal Aur Tîm PF o fewn wythnos ar ôl i Dîm PF ennill medal aur.
  • Cyhoeddodd y Post Brenhinol ei stampiau Gemau Olympaidd cyntaf yn 1948, gyda phedwar stamp yn dangos y pum Cylch Olympaidd.  Ni chyhoeddwyd stampiau yn 1908 gan na ddangosai stampiau’r Post Brenhinol ar y pryd ddim ond delwedd y teyrn presennol

Heddiw datgelodd y Post Brenhinol leoliad y canghennau hynny ledled y DU a fydd yn gwerthu stampiau Medal Aur Tîm PF i ddathlu llwyddiant yng Ngemau  Olympaidd Llundain 2012. 

Cyhoeddodd y Post Brenhinol yn gynharach eleni y byddai’n cynhyrchu stampiau i ddangos llun o gamp, lle bo’n bosibl,  pob aelod o Dîm PF neu bob tîm sy’n ennill aur yr haf yma. Bydd y stampiau hyn yn mynd ar werth mewn mwy na 500 cangen o  Swyddfa’r Post ledled y DU o fewn 24 awr ar ôl i Dîm PF ennill medal aur. Bydd yr holl ganghennau hyn yn agor ar ddydd Sul, llawer ohonynt am y tro cyntaf, yn ystod y gemau er mwyn i gwsmeriaid fedru prynu’r stampiau cyn gynted ag y byddant ar gael. Bydd 4,700 o ganghennau eraill yn gwerthu’r stampiau Medal Aur o fewn wythnos ar ôl buddugoliaeth.

Bydd stampiau Medal Aur Tîm PF ar gael i’w prynu fesul un am y pris safonol ar gyfer  Dosbarth Cyntaf sef 60c neu mewn setiau o chwech o stampiau am £3.60. Bydd y stampiau hefyd ar gael i’w prynu ar-lein drwy www.royalmail.com/goldmedalstampiau ac o Royal Mail Tallents House, (tel. 08457 641 641), 21 South Gyle Crescent, Edinburgh, EH12 9PB.

Diwedd

Am fwy o wybodaeth cysyllter â:
Natasha Ayivor
Royal Mail Press Office
Tel: 020 7449 8250
Swyddfa’r wasg - ffôn: 020 7250 2468
Symudol: 07436 280002
Ebost: press.office@royalmail.com

Nodiadau i Olygyddion
• Mae gwybodaeth am y canghennau Swyddfa’r Post sy’n gwerthu stampiau Medal Aur Tîm PF 2012 yn www.postoffice.co.uk.
• I ddod o hyd i’ch cangen agosaf  sy’n gwerthu stampiau Medal Aur Tîm PF 2012 dewiswch yr opsiwn darganfod cangen.  Rhowch eich cod post a dewiswch “Gold Medal Next Day Stampiau or Gold Medal Weekly Stampiau” o’r ddewislen ar gyfer eich dewis wasanaeth.
• Mae’r Post Brenhinol wedi amlygu pob camp a welir yn ystod Gemau’r haf yma mewn tair set o stampiau sy’n cyfrif y dyddiau tan Gemau Olympaidd Llundain 2012 a’r Gemau Paralympaidd. I gael gwybodaeth am ystod y Post Brenhinol o stampiau Olympaidd a Pharalympaidd, ewch i www.royalmail.com/goldmedalstampiau
• I gael y wybodaeth ddiweddaraf am lansiadau stampiau arbennig y Post Brenhinol a newyddion, dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/RoyalMailStamps
• Cyhoeddodd y Post Brenhinol ei stampiau Gemau Olympaidd cyntaf yn 1948, gyda phedwar o stampiau’n dangos y pum Cylch Olympaidd. Ni chyhoeddwyd stampiau yn 1908 gan na ddangosai stampiau’r Post Brenhinol ar y pryd ddim ond delwedd y teyrn presennol.
• Yn ystod Gemau Olympaidd Beijing 2008 enillodd Tîm PF 19 medal aur. 
• Australia Post oedd y gwasanaeth post cyntaf i gyhoeddi stampiau medal aur i nodi llwyddiannau Olympaidd y tîm cartref yn 2000, a gwnaeth Hellenic Post Groeg yr un peth yn 2004.
• Yn ystod Gemau Olympaidd Tseina yn 2008, cyhoeddodd China Post gynnyrch stamp i nodi pob tro yr enillodd y Tseiniaid Fedal Aur. Cyhoeddwyd taflen o stampiau gyda labeli ac argraffwyd llun o’r campwr buddugol ar y labeli. Gwnaed hyn eto bob tro yr enillwyd Medal Aur.
• Yn fwy diweddar, cyhoeddodd Canada Post stamp yn dangos llun o fedal aur Gemau Olympaidd Vancouver 2012.  Fe’i cyhoeddwyd i nodi’r tro cyntaf i rywun o Ganada ennill medal aur Olympaidd yn ei wlad ei hun.