News and press releases
Gwyddom pa mor galed yw hi i aelwydydd a busnesau pan fo’r sefyllfa ariannol mor anodd ag ar hyn o bryd. Rydym wedi ystyried yn ofalus iawn yr effaith ar ein cwsmeriaid ac ar ein busnes ein hunain cyn penderfynu codi ein prisiau.
Yn dilyn penderfyniad Ofcom heddiw ynglŷn â fframwaith rheoleiddiol newydd, mae’r Post Brenhinol yn cyhoeddi y bydd pris stamp Dosbarth Cyntaf ar gyfer llythyr safonol, o 30 Ebrill, yn codi o 46c i 60c. Bydd pris stamp Ail Ddosbarth ar gyfer llythyr safonol yn codi o 36c i 50c.
Mae Ofcom wedi dweud fod sefyllfa ariannol y Post Brenhinol yn peryglu hyfywedd y Gwasanaeth i Bawb. Mae’r Post Brenhinol wedi gwneud colled ar ei wasanaethau post craidd, gan gynnwys pacedi, yn ystod y pedair blwyddyn ariannol diwethaf. Felly, mae angen codi prisiau i osod y Gwasanaeth i Bawb ar sylfaen gadarn, gynaliadwy a diogel.
Mae safonau’r gwasanaeth post yn y DG yn uchel ac mae angen codi prisiau i dalu amdanynt. Mae targed next day y Post Brenhinol o 93% ymhlith yr uchaf mewn unrhyw un o brif wledydd yr UE. Rydym hefyd yn dosbarthu chwe diwrnod yr wythnos mewn cymhariaeth â llawer o wledydd yr UE sy’n dosbarthu ar bum niwrnod yn unig.
Ar gyfer aelwydydd incwm isel, bydd y Post Brenhinol yn cadw'r un pris am stampiau ag yn 2011. Bydd aelwydydd ar gredyd pensiwn a lwfans cyflogaeth a chymorth (neu fudd-dal analluogrwydd) yn gymwys. Gallant brynu hyd at dri llyfr o 12 stamp – 36 o stampiau i gyd – mewn un pryniad o unrhyw un o’r 11,801 o ganghennau Swyddfa'r Post o 6 Tachwedd tan y dyddiadau postio olaf cyn y Nadolig.
Yn dilyn penderfyniad Ofcom heddiw ynglŷn â fframwaith rheoleiddiol newydd, mae’r Post Brenhinol yn cyhoeddi y bydd pris stamp Dosbarth Cyntaf ar gyfer llythyr safonol, o 30 Ebrill, yn codi o 46c i 60c. Bydd pris stamp Ail Ddosbarth ar gyfer llythyr safonol yn codi o 36c i 50c. Bydd cost stamp Llythyr Mawr hyd at 100 gram yn codi o 75c i 90c ar gyfer Dosbarth Cyntaf ac o 58c i 69c ar gyfer Ail Ddosbarth. (Rhestrir cynhyrchion eraill, gan gynnwys pacedi, y bydd eu prisiau’n cynyddu, yn y Nodiadau i Olygyddion).
Ar y cyfan, mae’r Post Brenhinol yn croesawu'r Fframwaith rheoleiddiol newydd a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw.Bydd y Post Brenhinol nawr yn adolygu’r penderfyniad yn ei gyfanrwydd. Byddwn hefyd yn ymateb i ymgynghoriad Ofcom ynglŷn â chap diogelu estynedig ar gyfer parseli bach Ail Ddosbarth a llythyrau mawr sy’n pwyso hyd at 2kg.
Mae’r Grŵp wedi bod yn pwysleisio’r angen am fframwaith rheoleiddiol gwahanol iawn, am fod yr hen drefn – gan gynnwys rheolaethau prisiau helaeth iawn – yn cyflymu dirywiad ariannol y Post Brenhinol.
Dywedodd Moya Greene, y Brif Weithredwraig: “Gwyddom pa mor galed yw hi i aelwydydd a busnesau pan fo’r sefyllfa ariannol mor anodd ag ar hyn o bryd. Does neb yn hoffi codi prisiau yn yr hinsawdd economaidd bresennol ond, yn anffodus, does dim dewis gennym.
“Mae’r Post Brenhinol yn darparu un o’r gwasanaethau post gorau yn Ewrop am rai o’r prisiau rhataf i ddefnyddwyr cyffredin a busnesau. Mae’r gwasanaeth hwnnw dan fygythiad am fod llai o bost, mwy o e-bost a chystadleuaeth sy’n cynyddu drwy’r amser Oherwydd hyn i gyd, mae’r Post Brenhinol wedi colli £1 biliwn dros y pedair blynedd diwethaf; mae cynaliadwyedd y gwasanaeth mewn perygl erbyn hyn. Mae angen codi’r prisiau er mwyn i’r Gwasanaeth i Bawb fod yn gynaliadwy unwaith eto.”
Hyfywedd y Gwasanaeth I Bawb mewn perygl
Mae Ofcom wedi dweud fod yna berygl difrifol i’r Gwasanaeth i Bawb; mae rheolaethau prisiau wedi methu ac mae angen cynyddu prisiau yn sylweddol. Dros y pedair blynedd ariannol diwethaf, mae’r Post Brenhinol wedi gwneud colled ar ei wasanaethau post craidd, gan gynnwys pacedi, o bron £1 biliwn. Mae modd priodoli’r dirywiad sylweddol yn sefyllfa ariannol y Post Brenhinol i nifer o ffactorau. Yn gyntaf, cadwyd prisiau’n artiffisial o isel gan y drefn reolaethol flaenorol. Yn ail, cafwyd cwymp o o 25 y cant yng nghyfaint y post mewn chwe blynedd ac mae disgwyl cwymp o tua 5% y flwyddyn hyd y gellir rhagweld. Yn drydydd, mae llai o bost yn cael ei ddosbarthu i fwy o gyfeiriadau.Mae nifer y cyfeiriadau wedi codi o 27 miliwn yn 2003 i 29 wedi miliwn heddiw.
Mae’r safonau gwasanaeth yn y DG yn uchel a rhaid talu amdanynt
Mae’r safonau gwasanaeth yn y DG yn uwch o dipyn nag ydynt mewn llawer o wledydd eraill yr UE.Mae’n ofynnol i’r Post Brenhinol ddosbarthu chwe diwrnod yr wythnos; pum niwrnod yw gofyniad yr UE. Hefyd, mae targed dosbarthiad y diwrnod canlynol y Post Brenhinol yn 93%, sef yr uchaf mewn unrhyw wlad fawr Ewropeaidd; yn Ffrainc, er enghraifft, y safon ofynnol yw 84%. Mae angen rhwydwaith â chostau sefydlog uchel (ar hyn o bryd yn costio £6.7 biliwn y flwyddyn) i gynnal y gwasanaeth ansawdd uchel hwn.Waeth faint o eitemau sy’n cael eu dosbarthu bob dydd, rhaid i’r Post Brenhinol gynnal rhwydwaith ar y sail ei fod yn dosbarthu i 29 miliwn o gyfeiriadau yr wythnos.Mae angen prisiau uwch i gynnal y gwasanaeth safon uchel hwn.
Canolbwyntio ar effeithlonrwydd
Mae’r Post Brenhinol yn gweithio’n galed i leihau ei gostau ac mae’n dal i wella’i effeithlonrwydd. Mae hon yn broses boenus o newid parhaus i’n pobl. Dros y degawd diwethaf, mae dros 50,000 o’n pobl wedi gadael y Post Brenhinol. Yn anffodus, mae’r lleihad yn digwydd o hyd ar y lefelau rheoli a gweithredu. Rhaid i ni ymdopi â’r cynnydd anochel yng nghostau tanwydd ac ynni, ac mae nifer y cyfeiriadau sydd ag angen ein gwasanaeth chwe diwrnod yr wythnos yn cynyddu fesul 300,000 bob blwyddyn. Mae nifer y llythyrau sy’n cael eu trafod gan y Post Brenhinol yn dal i ostwng.
Gyda’r pwyslais yn newid o lythyrau i barseli, a heb gyfalaf i wella technoleg, yn wahanol i’n cystadleuwyr, rhaid i strwythur costau’r Post Brenhinol adlewyrchu realaeth ein dyletswydd i wasanaethu’r 29 miliwn o gyfeiriadau bob dydd.
Mae ein rhaglen o foderneiddio ymhlith y fwyaf o’i bath yn y DG ar hyn o bryd. Mae pob agwedd ar ein gwaith – casglu, cludo, didoli a dosbarthu post – yn cael ei newid.
Mae ein prisiau ymhlith y gorau o ran gwerth yn Ewrop
I ddefnyddwyr, mae prisiau stampiau ymhlith y gorau o ran gwerth yn yr UE; ni fydd hyn yn newid. Y pwyntiau allweddol yw:
· Yr un yw’r pris y mae’r Post Brenhinol yn ei godi am bob llythyr hyd at 100 gram. Yn aml, bydd gweithredwyr eraill yn yr UE yn codi tri phris gwahanol hyd at 100 gram.
· Yn y band pwysau 51g i 100g, stamp Ail Ddosbarth 50c newydd y DG yw’r rhataf yn Ewrop. Ar gyfer eitemau sy’n pwyso rhwng 21g a 50g, ein pris o 50c yw’r ail isaf. Mewn gwirionedd, llai na hanner gwledydd yr UE sy’n cynnig gwasanaeth Ail Ddosbarth.
· Yn y band 51g i 100g, y pris newydd o 60c ar gyfer stamp Dosbarth Cyntaf fydd y pumed isaf yn Ewrop.
Mae busnesau yn y DG sy’n defnyddio mesuryddion hefyd yn manteisio ar brisiau a disgowntiau da o hyd at 38% ar brisiau stampiau. Mae prisiau gwasanaethau mesurydd y Post Brenhinol a ddefnyddir gan fusnesau wedi llusgo y tu ôl i chwyddiant ers sawl blwyddyn. Ar ôl y prisiau uwch hyn, bydd prisiau mesurydd ar gyfer llythyrau Dosbarth Cyntaf tua 4% yn is mewn termau real nag oeddynt ddechrau’r 1980au. Bydd prisiau mesurydd ar gyfer Ail Ddosbarth tua 13% yn is mewn termau real.
Helpu aelwydydd ar incwm isel
Bydd gan y Post Brenhinol gynllun y Nadolig hwn i alluogi pobl ar incwm isel i brynu hyd at 36 o Stampiau Ail Ddosbarth mewn un pryniad am brisiau 2011 - 46c ar gyfer Dosbarth Cyntaf a 36c ar gyfer Ail Ddosbarth.Caiff y cynllun ei gyflwyno ar 6 Tachwedd a bydd ar waith tan y dyddiad postio olaf cyn y Nadolig ar gyfer stampiau Dosbarth Cyntaf.
Er nad yw cost stampiau’n gyfran uchel o wariant yr aelwyd, gwyddom y gall unrhyw gynnydd mewn prisiau fod yn anodd i rai pobl. Mae pobl ar gredyd pensiwn a lwfans cyflogaeth a chymorth (neu fudd-dal analluogrwydd) yn gymwys i gymryd rhan yn y cynllun Nadolig. Mae oddeutu 5 miliwn o bobl yn gymwys o dan y meini prawf hyn.
Bydd pobl cymwys yn gallu prynu hyd at dri llyfr o 12 stamp - 36 stamp i gyd - mewn un pryniad o unrhyw un o’r 11,801 o ganghennau Swyddfa'r Post.I gael y stampiau am brisiau 2012, bydd rhaid i bobl ddarparu tystiolaeth eu bod yn derbyn budd-daliadau, e.e. y llythyr Uwchraddio Blynyddol neu’r llythyr Hysbysiad Dyfarnu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd y Post Brenhinol yn ysgrifennu at bob aelwyd yn y DG yn hwyrach yn y flwyddyn i esbonio’r cynllun a sut mae’n gweithio.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Mish Tullar. Cyfarwyddwr Cyswllt â'r Cyfryngau, Grŵp y Post Brenhinol
020 7250 2468/07423 524154
Tim Cowen, Cyfarwyddwr Cyswllt â'r Cyfryngau Defnyddwyr a Busnes, Grŵp y Post Brenhinol
020 7250 2468/ 07720 412143
NODIADAU I OLYGYDDION:
1. Ynglŷn â’r Post Brenhinol
Rydym yn unigryw o ran cyrraedd pawb yn y DG trwy ein busnesau post a pharseli. Rydym yn elfen allweddol o seilwaith economaidd a chymdeithasol y DG, gan ddarparu gwasanaethau i unigolion preifat, cwmnïau a chymunedau. Ni yw unig ddarparwr y Gwasanaeth i Bawb yn y DG, gan gynnig gwasanaethau gwerth yr arian i ddefnyddwyr a busnesau. Bob dydd gwaith, mae’r busnes yn prosesu a dosbarthu tua 59 miliwn o eitemau. Rydym yn dosbarthu i oddeutu 29 miliwn o gyfeiriadau yn y DG.
2. Prisiau eraill
Y prisiau am gynhyrchion a gwasanaethau eraill wedi'u darparu gan y Post Brenhinol sydd hefyd yn newid ar 30 Ebrill 2012:,
Prisiau pacedi: O 30 Ebrill, yr un fydd y pris ar gyfer pob paced sy’n pwyso hyd at 750g. O’r dyddiad hwnnw, y pris ar gyfer pacedi Dosbarth Cyntaf sy’n pwyso hyd at 750g fydd £2.70. Ar gyfer pacedi Ail Ddosbarth y pris fydd £2.20. Ar hyn o bryd mae’r prisiau’n amrywio rhwng £1.58 a £3.05 ar gyfer eitemau Dosbarth Cyntaf sy’n pwyso hyd at 750g a rhwng £1.33 a £2.61 ar gyfer pacedi Ail Ddosbarth.
Gwasanaethau Mesurydd: Bydd y pris ar gyfer llythyr Dosbarth Cyntaf hyd at 100g wedi’i ffrancio yn codi o 39c i 44c ac o 28c i 31c ar gyfer Ail Ddosbarth
Local Collect®: nid oes unrhyw newid ym mhrisiau’r gwasanaeth Local Collect. Mae’r pris am ddewis ailddosbarthu eitem na fu modd ei dosbarthu’n wreiddiol i gangen Swyddfa'r Post yn dal yn £1.50 gan gynnwys TAW.
Recorded Sign For™: mae’r pris am anfon eitem Recorded Signed For yn cynyddu tua 23 y cant. O 30 Ebrill, bydd yn costio 95c, i fyny o 77c. Mae eitemau Recorded Signed For yn derbyn llofnod adeg y dosbarthu sydd ar gael ar-lein.
Keepsafe™: Ni fydd cwsmeriaid cymdeithasol yn gweld unrhyw wahaniaeth ym mhris y gwasanaeth pan fo’r Post Brenhinol yn cadw’r post i chi pan fyddwch yn mynd i ffwrdd am gyfnod byr, er enghraifft, ar wyliau. Mae’r pris yn para’n £11.25 am 17 diwrnod.
Ailgyfeirio: bydd pris y gwasanaeth ailgyfeirio post i gwsmeriaid cymdeithasol yn cynyddu rhwng 10 a 15 y cant am gyfnod o rhwng tri a 12 mis. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, y bydd Ailgyfeirio am 12 mis yn cynyddu o £40.85 i £47. Bydd pris Ailgyfeirio am un mis yn cynyddu o £8 i £12.50.
Blwch SP®: bydd pris Blwch SP yn cynyddu rhwng oddeutu 9 a 15 y cant, gan ddibynnu ar y gwasanaeth a ddefnyddir. Er enghraifft, mae cost gwasanaeth Blwch SP am flwyddyn yn cynyddu o £170 i £185. O 2 Ebrill, bydd rhaid talu TAW ar y gwasanaeth.
3. Cynorthwyo Elusennau a sefydliadau eraill
Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Post wedi newid y ffordd y mae TAW yn cael ei godi ar gynhyrchion post, sy’n golygu y bydd TAW yn cael ei godi ar rai o’n cynhyrchion ni am y tro cyntaf. Rydym wedi datblygu ffordd newydd o dalu am Ddosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth er mwyn helpu cwsmeriaid sydd erbyn hyn yn gorfod talu TAW ar gynhyrchion a oedd yn rhydd o TAW o’r blaen. Gall y newid hwn gael effaith ar lawer o’n cwsmeriaid – elusennau, er enghraifft. O 2 Ebrill bydd cwsmeriaid yn dal i allu talu drwy gyfrif am gynhyrchion Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth sy’n rhydd o TAW.
4. Newidiadau i iawndal
Mae’r Post Brenhinol yn newid ei drefniadau am iawndal ar gyfer colled neu ddifrod ar gyfer gwasanaethau stamp, mesurydd a chyfrif nad ydynt yn wasanaethau tracked. Ar hyn o bryd, mae uchafswm yr iawndal sydd ar gael yn gysylltiedig â phris stamp (100 x pris stamp Dosbarth Cyntaf). O 30 Ebrill, bydd uchafswm yr iawndal sydd ar gael yn parhau yn £46 pan fo tystiolaeth ar gael o’r postio a’r gwerth.
O 30 Ebrill, bydd y Post Brenhinol yn cysoni’r trefniadau iawndal ar gyfer yr holl wasanaethau nad ydynt yn wasanaethau tracked. O hyn ymlaen ni fydd modd i gwsmeriaid brynu gwell iawndal am Barseli Safonol (gwasanaeth parseli nad yw’n tracked). Bydd y trefniadau iawndal sydd ar gael ar gyfer Parseli Safonol yn parhau ag uchafswm o £46 pan fo tystiolaeth o’r postio a’r gwerth yn cael ei darparu.
Swyddfa Gofrestredig Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group plc 2013
