News and press releases
- Mae’r Post Brenhinol yn lansio menter newydd, sylweddol, sef MarketReach, i ddarparu set gyflawn o atebion ymgyrchoedd post er mwyn tyfu eu busnesau
- Fel rhan o’n strategaeth, rydym yn datblygu ein cynigion parseli a phost marchnata i gyfrannu at lwyddiant yn creu Grŵp y Post Brenhinol wedi ei arallgyfeirio sydd yn sefydlog yn ariannol yn y dyfodol. Gyda’i gilydd mae parseli a phost marchnata bellach yn rhoi cyfrif am 60 y cant o refeniw Grŵp y Post Brenhinol (ac eithrio Swyddfa’r Post Cyf)
- Mae post marchnata wedi ei dargedu â chyfeiriad neu heb gyfeiriad eisoes yn rhoi cyfrif am ryw £1.1 biliwn o refeniw'r Post Brenhinol. Trwy weithio ar draws y gadwyn gwerth, nod y Post Brenhinol yw cynyddu ei gyfran o’r farchnad hysbysebu sydd yn werth £16 biliwn
- Mae post wedi ei brofi i fod yn ffordd i fusnesau ymestyn allan i gwsmeriaid mewn ffordd nad yw mathau eraill o hysbysebu’n gallu gwneud. Mae elw ar fuddsoddiad ar gyfer ymgyrchoedd post wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf i fwy na £3 am bob £1* sy’n cael ei wario ac mae’n cyd-fynd â’r hyn a gyflawnir gan ddigidol (Ffynhonnell: OMD Brand Science 2010)
- Bydd MarketReach yn rhoi’r arbenigedd a’r sgiliau sydd eu hangen ar hysbysebwyr ac asiantaethau i ychwanegu elfen wirioneddol i ymgyrchoedd marchnata sydd yn mynd yn gynyddol ddigidol
- Mae MarketReach yn darparu ystod o arbenigedd, o atebion cynllunio i rai creadigol a dylunio i argraffu, cyflenwi a gwerthuso ymateb
- Mae’r atebion sydd ar gael hefyd yn cynnwys cydran amlgyfrwng lawn sydd yn galluogi hysbysebwyr i integreiddio sgrîn deledu, fideo a sain i becyn post
Heddiw, lansiodd y Post Brenhinol MarketReach, menter newydd i ddarparu set gyflawn o atebion post i gwmnïau a’u hasiantaethau er mwyn tyfu eu busnesau. Bydd MarketReach yn darparu’r arbenigedd a’r sgiliau sydd eu hangen i ychwanegu elfen wirioneddol i ymgyrchoedd marchnata sydd yn mynd yn gynyddol ddigidol.
Fel rhan o’n strategaeth, rydym yn datblygu ein cynigion parseli a phost marchnata er mwyn cyfrannu at lwyddiant yn creu Grŵp y Post Brenhinol wedi ei arallgyfeirio sydd yn sefydlog yn ariannol yn y dyfodol. Gyda’i gilydd mae parseli a phost marchnata yn rhoi cyfrif am 60 y cant o refeniw Grŵp y Post Brenhinol (ac eithrio Swyddfa’r Post Cyf).
Mae post marchnata ar hyn o bryd yn cynrychioli 11 y cant o gyfanswm gwariant hysbysebu yn y DG, sef £16 biliwn (ffynhonnell: WARC/AA Expenditure Report 2012).Rydym o’r farn bod potensial twf gwirioneddol yn y farchnad ar gyfer post marchnata â chyfeiriad a heb gyfeiriad. Trwy weithio ar draws y gadwyn gwerth, nod y Post Brenhinol yw cynyddu ei gyfran yn y farchnad hon.
Mewn byd lle mae’r dirwedd farchnata’n cael ei harwain fwy a mwy gan gyfathrebu digidol, mae wedi ei brofi bod post yn ffordd i fusnesau gyrraedd cwsmeriaid mewn ffordd na all mathau eraill o hysbysebu wneud. Mae elw ar fuddsoddiad ymgyrchoedd post wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf i dros £3 ar gyfer pob £1 sy’n cael ei wario ar gyfartaledd ac yn cyd-fynd â’r hyn a gyflawnir gan ddigidol (OMD Brand Science 2010).
Atebion MarketReach yn cyfuno profiad mewnol ac arbenigedd allanol
Gan ddefnyddio cymysgedd o brofiad mewnol ac arbenigedd allanol o dan un to, ein nod yw ychwanegu gwerth ar gyfer ein cwsmeriaid yn ystod pob pwynt o’r gadwyn gwerth. Byddwn yn darparu atebion cynllunio, data, creadigol a dylunio hyd at argraffu, cyflenwi a gwerthuso ymateb. Mae tîm gwerthu arbenigol MarketReach ar hyn o bryd yn siarad â dros 50 o gwmnïau am ddarparu atebion post marchnata ar gyfer eu busnesau.
Grym MarketReach yw cynllunio. Gan ddefnyddio ein hofferyn cynllunio unigryw, Diode, yn erbyn y wybodaeth, y data a’r ddirnadaeth ddiweddaraf, mae MarketReach yn datblygu atebion effeithiol er mwyn gwella ymgyrchoedd. Mae cydran greadigol wedi ei chynnwys yng nghynnigMarketReach sydd yn galluogi hysbysebwyr i integreiddio sgrin deledu, fideo a sain mewn pecyn post.Mae hyn ar gael mewn partneriaeth âVideoPak, y mae Amstore yn berchen arno.
Dywedodd Frank Schinella, Rheolwr-gyfarwyddwr Busnes Cyfryngau'r Post Brenhinol. “Mae’r Post Brenhinol wedi lansio MarketReach i ddarparu’r arbenigedd a’r sgiliau sydd eu hangen ar hysbysebwyr ac asiantaethau i ychwanegu elfen wirioneddol i ymgyrchoedd sydd yn gynyddol ddigidol.
“Gwyddom mewn amgylchedd cystadleuol bod cyfleu eich neges i gwsmeriaid mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio, ei thargedu ac sy’n cael effaith, yn hanfodol i lwyddiant busnes. Mae post yn ffordd wych o ategu ac integreiddio hysbysebu digidol, gan ychwanegu elfen wirioneddol i ymgyrch.
“Rydym eisiau helpu hysbysebwyr ac asiantaethau trwy ddarparu’r sgiliau a’r arbenigedd i’w wneud yn haws byth i ychwanegu post i’w gweithgareddau marchnata. Trwy weithio ar draws y gadwyn gwerth, nod y Post Brenhinol yw cynyddu ei gyfran o’r farchnad hysbysebu sydd yn werth £16 biliwn.”
Diwedd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
James Eadie, Cyfarwyddwr CC Cynnyrch a Gwasanaethau, Grŵp y Post Brenhinol
020 7250 2468
07850 757271
Swyddfa Gofrestredig Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group plc 2013