Mae’r Archif ac Amgueddfa Bost Prydeinig (BPMA) yn ymdrechu i wneud etifeddiaeth bost werthfawr ein cenedl yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.
Archif ac Amgueddfa Bost Prydeinig
O stamp llofnod y nofelydd Anthony Trollope – a weithiodd i’r Post Brenhinol am 33 o flynyddoedd er 1834 – i fapiau hynafol, posteri clasurol a hyd yn oed beic pum olwyn, mae casgliad y BPMA yn cynnwys amrywiaeth hynod o arteffactau a chofnodion.
Mae gan y Post Brenhinol le unigryw a phwysig mewn hanes. Mae’n bleser gennym gefnogi etifeddiaeth bost Prydain trwy ariannu’r BPMA, yn cynnwys rhodd o £500,000 ar gyfer 2012 a chefnogi’r penderfyniad a gyhoeddwyd yn ddiweddar i symud i Calthorpe House, yn Mount Pleasant yn Llundain, lle mae canolfan bost hynaf y wlad wedi ei lleoli.
Bydd hyn yn caniatáu sefydlu Amgueddfa Bost newydd i gadw casgliadau’r BPMA – yn cynnwys archifau’r Post Brenhinol.
O ganlyniad, bydd stori ddynol cyfathrebu, diwydiant ac arloesi – sy’n parhau heddiw trwy waith Grŵp y Post Brenhinol – yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.
A wyddoch chi?
Gallwch ymweld â’r BPMA yn Llundain i ddefnyddio Archif y Post Brenhinol. Os ydych yn ymchwilio i hanes eich teulu, er enghraifft, efallai y gallech ddod o hyd i wybodaeth am gyndeidiau oedd yn gweithio i’r gwasanaeth post. Mae gwrthrychau diddordol i’w gweld hefyd o’r gorffennol pell (ac nid mor bell) yn storfa’r BPMA ar ddiwrnodau agored arbennig.
Registered Office Royal Mail Group Ltd, 100 Victoria Embankment, London, EC4Y 0HQ
© Royal Mail Group Limited 2013