Siarad Plaen
Sicrhau cydraddoldeb i’n cwsmeriaid a’n staff sy’n Gymry Cymraeg
Cynllun Iaith Gymraeg
Yn unol â chanllawiau Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mae Cynllun Iaith Gymraeg Grŵp y Post Brenhinol yn defnyddio’r egwyddor y bydd yn trin yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru.
Mae ein Cynllun statudol newydd a gymeradwywyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar 16 Rhagfyr 2011 yn nodi’r hyn yr ydym yn ei wneud i roi statws cyfartal i’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau i’n cwsmeriaid yng Nghymru.
Mae cwsmeriaid yng Nghymru y mae’n well ganddynt gynnal materion busnes gyda ni yn Gymraeg yn cael eu hannog i wneud hynny. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth yr un mor uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cysylltu
Os oes gennych ymholiad neu gŵyn yn ymwneud â’n polisi iaith Gymraeg a chynnwys ein cynllun, cysylltwch â mike.norman@royalmail.com.
Lawrlwytho copi o’n Cynllun Iaith Gymraeg 2011



